Ymdrech y garfan yn gyfrifol am y fuddugoliaeth dros Scarlets – Harries

by

in

Mae Jason Harries yn mynnu mai ymdrech y garfan gyfan oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Gleision Caerdydd yn erbyn Scarlets ddydd Sadwrn, er i’r asgellwr gynhyrchu un o ddigwyddiadau mwyaf dylanwadol o’r gêm.

Gyda’i dîm ar y blaen yn Llanelli, fe wnaeth y cyn seren saith-pob-ochr lwyddo i daro trosiad Leigh Halfpenny i lawr a rhwystro’r cefnwr rhyngwladol rhag ychwanegu dau bwynt yn dilyn cais cyntaf Dane Blacker.

A gyda dim ond pwynt rhwng y ddau dîm ar y chwiban olaf, roedd y digwyddiad wedi chwarae rôl hanfodol yn y canlyniad ar ddiwedd y gêm.

Ond mae Harries yn barod i bwysleisio pwysigrwydd yr 80 munud cyfan wrth i Gaerdydd adael Llanelli gyda’r pum pwynt cyfan.

“Fi wastad wedi ceisio gwneud e os yw rhywun yn cymryd cic yn ein erbyn ni. Ar ôl sgorio cais yn ein erbyn ni, mae hawl gyda ni i redeg a ceisio cael y charge down,” meddai’r asgellwr.

“Nes i weld Leigh yn leinio’r gic lan a nes i gymryd cyfle fel bach o instinct.

“Ges i dwylo fi i’r bêl er mwyn stopio’r bêl rhag mynd drosto a oedd e’n neis oherwydd dyw hynny ddim wastad yn digwydd.

“Ond mae lot yn digwydd mewn 80 munud a mae hi’n hawdd i edrych yn ôl gyda hindsight. Dim ond pwynt oedd yn y gêm yn y diwedd a roedd hynny wedi arbed dau bwynt i ennill y gêm.

“Ond y gwir yw fod y bois i gyd wedi gwneud digon i ennill y gêm ‘na a ni gyd yn hapus iawn fel carfan.

“Ni wastad yn edrych ar y canrannau bach yn ein gêm ni er mwyn bod ar ben yr ymwelwyr, felly os ni’n gallu gwneud pethau bach fel yna byddwn ni’n cario ymlaen i drio.”

Ar ôl dwy fuddugoliaeth yn olynol yng Nghwpan yr Enfys, mae tîm Dai Young nawr yn paratoi ar gyfer taith i herio Munster yn Limerick.

Mae Harries yn credu gall ei dîm deithio i Iwerddon gyda hyder a momentwm wrth iddynt geisio gorffen y tymor ar nodyn uchel.

Ychwanegodd yr asgellwr: “Ni’n hapus iawn i gael y fuddugoliaeth i lawr ‘ma. Dyw hi byth yn gêm hawdd lawr yma, mae pob tro yn galed i chwarae yma.

“Ond o’n ni wedi gwneud digon yn y diwedd i ddod bant gyda’r fuddugoliaeth.

“Roedd e’n gêm o ddau hanner. O’n ni wedi sgorio cwpwl o geisiau neis yn yr hanner cyntaf ond o’n ni’n ffili rhoi mwy o bwysau ar y Scarlets yn yr ail hanner ac adeiladu’r sgor-fwrdd.

“Gyda’r Scarlets, mae nhw’n dîm da sydd wastad am sgorio ceisiau, ond ni’n falch bod ni wedi cadw nhw mas yn y diwedd.

“Mae’r momentwm gyda ni nawr.Does dim gêm wythnos nesaf ond wedyn ni’n mynd bant i Munster mas yn Iwerddon.

“Felly gyda cystadleuaeth mor fach a llai o gemau, mae’n rhaid ceisio ennill pob un felly ni’n edrych ymlaen i fynd mas i Munster nawr.”

Latest news