Y perfformiad yw’r flaenoriaeth i Gleision Caerdydd yn erbyn y Gweilch dydd Sul, meddai Shane Lewis-Hughes.
Ar ôl perfformiad a chanlyniad siomedig yn erbyn Scarlets wythnos diwethaf, mae John Mulvihill wedi gwneud 13 newid i’r tîm wrth i dymor y Guinness PRO14 ddod i ben yn Rodney Parade.
Mae’r blaen-asgellwr ifanc yn mynnu, os yw ei dîm am gipio’r fuddugoliaeth, y bydd rhaid iddynt roi stamp eu hunain ar yr ornest
“Ni eisiau perfformio a bydd y canlyniad yn edrych ar ôl ei hun. Ni eisiau mynd mas ‘na a chwarae’r rygbi ni eisiau chwarae,” meddai Lewis-Hughes.
“Ni ddim am canolbwyntio gormod ar y canlyniad, ni’n canolbwyntio ar y rygbi ni’n gwybod ni’n gallu chwarae.
“Ni’n gwybod beth ni’n gallu gwneud ar y cae, ond mae’n rhaid i ni fynd mas na nawr a gwneud e.
“Ni’n gwybod hefyd bod ni’n well nag o’n ni wedi dangos yn erbyn y Scarlets dydd Sadwrn diwethaf, a oeddem ni’n siomedig gyda’r perfformiad yn y gêm ‘na.
“Fel grwp, ni’n cael cyfle i fynd mas dydd Sul a chwarae rygbi da. Gobeithio bydd y canlyniad yn dilyn oherwydd hynny. Ni eisiau perfformiad ni’n gallu bod yn falch ohono.”
Mae hi wedi bod yn 18 mis addawol i’r blaenwr ifanc. Yn ogystal ag arwyddo cytundeb newydd gyda’i ranbarth cartref, fe gafodd Lewis-Hughes alwad i garfan Cymru ym mis Tachwedd.
Fe oedd seren y gêm yn erbyn y Gweilch yn y fuddugoliaeth yn Stadiwm y Liberty ym mis Rhagfyr, ac mae’r cyn seren Cymru dan-20 yn ysu i ddychwelyd i chwarae rygbi wedi’r cyfnod clo.
Ychwanegodd y blaen-asgellwr: “Oedd e’n rhyfedd i peidio cael cefnogwyr ym Mharc y Scarlets wythnos diwethaf, ac i chwarae mewn stadiwm fel ‘na, lle dim ond y bois sydd ar y cae a neb arall o gwmpas ti.
“Ond roedd hi’n briliant i bod mas ‘na a chwarae rygbi eto. Oedd gymaint o break wedi bod, oedd hi’n braf i cael gêm a bod mewn routine eto.
“Roedd e’n anodd mas ‘na yn y gêm cyntaf. O’n i mlaen am 20 munud o’r fainc, ond roedd hi’n wych i chwarae rygbi eto.
“Mae’n ddoniol, oherwydd pan ti’n chwarae rygbi ac yn cael y pwysau i berfformio pob wythnos, mae’n gallu cael ei effaith arna ti.
“Fi’n caru chwarae rygbi ac yn dwli arno fe, ond pan mae rhywun yn cymryd ti mas o rygbi am gyfnod mor hir, ti’n cael amser i feddwl – ‘bydda i’n gwneud unrhyw beth i fynd mas ar y cae eto.’
“Gobeithio nawr o fis Hydref y cawn ni chwarae rygbi pob wythnos, a gallwn ni wthio ein hunain i gael y canlyniadau pob wythnos.”