Blog Banner

Williams yn ysu i groesawu'r cefnogwyr yn ôl

Cymraeg | 5th June 2021


Gyda’r tymor presennol yn dod i ben yn erbyn Zebre nes ymlaen heddiw, mae Lloyd Williams yn ysu i gael croesawu’r cefnogwyr yn ôl i Barc yr Arfau tymor nesaf.

Croesodd y mewnwr am gais yn erbyn Munster wythnos diwethaf, a mae wedi ennill ei le yn y tîm i gychwyn gêm olaf y tymor yn erbyn yr Eidalwyr o Parma.

Mae’r seren rhyngwladol yn gobeithio gorffen y tymor ar nodyn uchel ond mae’n cyfaddef fod y tîm wedi gweld eisiau’r cefnogwyr yn ystod yr ymgyrch.

“Roedd y bechgyn wedi chwarae rygbi da wythnos diwethaf, ond o’n ni wedi osgoi’r canlyniad o’n ni eisiau,” meddai Williams.

“Ond ar y cyfan roedd y bechgyn wedi gwneud popeth gaeth ei baratoi yn ystod yr wythnos o ymarfer.

“Mae’r bois yn edrych ymlaen at diwedd y tymor nawr. Mae wedi bod yn dymor hir a stop-start a nawr mae pethau yn dod i ben.

“Bydd e’n neis i gael bach o orffwys a wedyn bydd popeth yn cychwyn o’r cychwyn unwaith eto tymor nesaf.

“Gobeithio bydd y dorf yn ôl a fod popeth yn ôl i’r arfer. Chi ddim wastad yn ystyried y mantais mae nhw’n rhoi i chi, yn enwedig gartref.

“Ni wedi gweld eisiau’r cefnogwyr fel tîm eleni. Ni wedi bod angen nhw tu ôl i ni fan hyn a blwyddyn nesaf bydd hynny’n enfawr i ni.

“Mae’r cefnogwyr ym Mharc yr Arfau wastad yn swnllyd a mae’n beth da i ni oherwydd mae’n effeithio’r ddau dîm ar y cae.

“Bydd cael nhw’n ôl yn hwb i ni fel chwaraewyr a ni’n edrych ymlaen at hynny.”

Wythnos yma fe wnaeth Tomos Williams arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb, gan ymestyn ei amser yn y brifddinas.

Mae Lloyd yn falch fod ei gyd-fewnwr wedi penderfynu aros gyda’i glwb cartref a mae’n teimlo fod y ddau ohonynt yn manteisio o’r gystadleuaeth am le yn nhîm Dai Young.

“Fi’n bles iawn i Tomos ac i’r clwb fod e’n aros fan hyn,” esboniodd Williams.

“Roedd y cytundeb wedi cymryd ychydig bach o amser i’w arwyddo ond mae’n bleser i’w gael e yma.

“Mae gan y bechgyn lot o feddwl am Tomos, a mae hynny’n wir amdana i, fel chwaraewr ac fel person.

“Ni’n lwcus i’w gael e fan hyn a fi’n falch fod e’n aros yma. Mae’n hwb fawr i fy rygbi i, ni wastad yn gwthio ein gilydd a fi’n hoffi hynny.

“Fi’n meddwl fod y gystadleuaeth yn dod a’r gorau mas o’r ddau ohonom ni.”