Roedd Lloyd Williams yn teimlo’n rhwystredig gyda camgymeriadau Caerdydd yn y gêm yn erbyn Leinster nos Sadwrn.
Croesodd y tîm cartref am chwe cais yn Nulyn mewn perfformiad unochrog er mwyn ymestyn eu mantais ar frig y gynghrair.
Prin cysur oedd ceisiau hwyr i Rory Thornton a Kristian Dacey, a gyda tair wythnos tan yr ornest nesaf yn erbyn Benetton, mae Williams yn mynnu y bydd Caerdydd yn gweithio’n galed ar y maes ymarfer i sicrhau y byddant yn ymateb o flaen torf Parc yr Arfau.
“Wrth edrych ar y llun llawn, dyw’r garreg filltir ddim yn bwysig. Fi’n siomedig iawn ein bod ni wedi colli a gyda sut ni wedi colli heddiw,” meddai Williams.
“Mae’n rhaid gwella. O’n ni’n hyderus yn ystod yr wythnos ar ôl y ffordd ni wedi chwarae dros y mis diwethaf, ond mae’n noson siomedig i ni.
“Mae pawb yn trio eu gorau mas ‘na. Y peth pwysicaf i ni drafod cyn dod mas yma oedd pa mor galed byddai’n rhaid i ni weithio.
“Mae Leinster yn dîm hynod o dda am roi pwysau arno chi yn eich hanner eich hun, a pan oedd ganddyn nhw’r bêl o’n nhw’n cadw fe’n dda iawn ac yn well nag ni.
“Mae’r canlyniadau diweddar yn bryderus. Ni wedi bod yn gwneud yn dda yn yr URC, a roedd ychydig o fomentwm tu ôl i ni.
“Ond yn anffodus mae’r pethau bach wedi gadael ni lawr eto a mae’n rhaid i ni wella.
“Y peth gorau ar ôl canlyniad a perfformiad fel ‘na yw’r gallu i chwarae tro nesaf a rhoi pethau’n gywir.
“Mae wythnos bant nawr, a mae’n rhaid i ni weithio yn galed nawr ar y pethau sydd yn gadael ni lawr tro ar ôl tro.”