Mae Lloyd Williams yn gobeithio fod ei dîm wedi gosod platfform ar gyfer tymor llwyddiannus yn 2021/22, ar ôl cyfres o berfformiadau addawol yn yr wythnosau diwethaf.
Colli oedd hanes dynion Dai Young yn Munster neithiwr, ond cafodd y tîm cartref eu gwthio’r holl ffordd gan y gŵyr o Gymru, gyda Williams yn croesi’r llinell gais yn yr ail hanner.
Mae Williams yn mynnu canolbwyntio ar y pwyntiau positif o’r ornest ac yn gobeithio gorffen y tymor ar nodyn uchel yn erby Zebre ym Mharc yr Arfau wythnos nesaf.
“Roedd adege bach yn ystod y gêm lle roedd disgybliaeth ni ddim cystal â ni moen,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.
“Ond roedd ein perfformiad ni’n dda a o’n ni wedi gwneud yn union beth o’n ni wedi bwriadu gwneud ar ôl ein gwaith yn ystod yr wythnos.
“O’n ni’n ceisio chwarae rygbi da, a wedi llwyddo i wneud hynny. O’n ni wedi llwyddo i ymdopi gyda Munster am rannau mawr o’r gêm ond roedd y disgybliaeth ‘na wedi gadael ni lawr.
“Mae rhaid cael calon ac ymdrech pan chi’n chwarae rygbi, dim bwys beth yw’r safon, a ni’n disgwyl hynny pob wythnos gan y tîm.
“Roedd e yna heddiw i bawb i’w weld ond yn anffodus roedd pethau i ffwrdd o’r bêl wedi gadael ni lawr a penderfyniadau wedi mynd yn ein erbyn ni.
“Ond dyna rygbi ar ddiwedd y dydd. Ni’n cymryd camau i’r cyfeiriad cywir a gobeithio nawr, gyda gêm gartref i orffen y tymor wythnos nesaf, y gallwn ni berfformio yn dda.
“O’n ni’n gwybod byddai Munster ddim yn mynd i ffwrdd yn y gêm pan o’n ni ar y blaen. Mae nhw’n dîm cryf a chorfforol ym mhob ardal.
“Roedd wastad adegau am fod yn y gêm lle roedd Munster yn rhoi’r pwysau ymlaen ond am rannau mawr o’r ddwy hanner, fel tîm o’n ni wedi llwyddo i ymdopi gyda hynny.
“O’n ni byth yn credu bod ni mas o’r gêm, oherwydd pan ni gyda’r bêl ni’n gallu creu lot a sgorio lot o bwyntiau yn sydyn. O’n ni wedi dangos hynny yn ystod y gêm.
“Ni’n chwarae rygbi da ar adegau, ond wedi ffeindio hi yn anodd i chwarae yn dda am yr 80 munud cyfan yn ddiweddar.
“Mae’n beth eithaf anodd i’w wneud fel tîm, ond beth sydd yn braf yw ein bod ni’n sylweddoli hynny.
“Felly ni’n gweithio’n galed yn yr wythnos i fod yn dîm sydd yn chwarae’n dda trwy gydol y gêm. Wythnos diwethaf roedd hi’n berfformiad cryf am 50 munud, wythnos yma am 70, felly ni’n mynd yn y ffordd cywir.
“Ni’n eisiau gorffen y tymor ar tôn uchel yn erbyn Zebre gartref wythnos nesaf cyn cael ychydig o orffwys. Ond gobeithio bod pethau yn eu lle nawr i gael tymor llwyddiannus tymor nesaf.”
Roedd cais Williams yn yr ail hanner wedi ychwanegu i’r dwbwl gan ei gyd-fewnwr, Tomos Williams.
Er ei fod yn hapus i gael ei enw ar y sgor-fwrdd, yn dilyn gwaith da Josh Turnbull, roedd yn siomedig nad oedd hi’n rhan o ymderch lwyddiannus i’r tîm: “Roedd Tomos wedi rhoi bach o bwysau arna i i gael cais o’r fainc, ond mae’n braf i weld gwaith caled y mewnwyr ar y tu fewn yn talu bant.
“Chwarae teg i Josh Turnbull am wneud y bylchiad ac edrych tu fewn i weld fi.
“O’n i’n bles i groesi ond yn anffodus roedd e ddim yn ddigon i ennill y gêm.”