Mae Teddy Williams yn awyddus am fwy o gyfleuon i ddatblygu ei gêm, ar ôl i’w gais sicrhau buddugoliaeth i Gleision Caerdydd dros y Dreigiau brynhawn dydd Sul.
Daeth y clo ifanc o’r fainc i wneud ei ymddangosiad cyntaf ar Barc yr Arfau dros y tîm cyntaf, gan groesi’r gwyn-galch gyda dim ond saith munud yn weddill ar y cloc.
Roedd Williams, un o bump o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Glantaf ar y cae, yn falch o sicrhau’r canlyniad ond mae’n parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gêm ei hun, wrth iddo ddod i arfer chwarae ar y lefel broffesiynol.
“Roeddwn i’n falch i ddod ymlaen i’r cae a cael dylanwad ar y gêm, a roedd hi’n grêt i gael y fuddugoliaeth yn y diwedd,” meddai Williams.
“Roedd rhaid i ni weithio yn galed trwy’r ail hanner achos roedd gyda nhw dyn yn fwy am rhan fwyaf o’r amser.
“Ond o’n ni wedi llwyddo i aros yn y gêm a pan ddaeth y cyfle roedd hi’n neis i fynd drosodd i sgorio’r cais.
“Wrth gwrs y canlyniad yw’r peth pwysicaf. Ar ôl bod yn erbyn hi am gyfnodau hir roedd hi’n grêt i ddod mas gyda’r canlyniad cywir.
“Roedd yr amddiffyn wedi chwarae rhan mawr, ond mae hynny i’w ddisgwyl pan chi’n colli dynion i cerdyn coch a melyn.
“Yn bersonol, mae’n grêt i gael amser ar y cae a gobeithio fod mwy i ddod. Fi eisiau setlo i mewn yn y tîm a parhau i wella fy gêm.
“Y peth pwysicaf yw arfer gyda pa mor gorfforol yw’r gêm a dod yn gyfforddus ar y lefel yma.
“Mae Dai eisiau i fi fod yn hyderus a pendant ar y cae. Mae’n mwynhau gweld fi yn bod yn rhan o’r gêm ac eisiau i fi gario ymlaen i chwarae yn y ffordd sydd yn siwtio fi.”
Yr ornest nesaf i dîm Dai Young yw taith i Lanelli i wynebu’r Scarlets nos Sadwrn, a mae Williams yn disgwyl gêm gystadleuol arall wrth i Gaerdydd dargedu ail fuddugoliaeth yn olynol.
“Mae wastad yn gêm galed yn erbyn Scarlets, ond un lle ni wastad yn targedu i’w ennill,” meddai Williams.
“Ni’n gwybod fod rhaid bod yn barod am sialens galed pob tro ni’n wynebu nhw.”