Mae Josh Turnbull yn barod am her gorfforol wrth i Gaerdydd deithio i wynebu Ulster nos Wener.
Ar ôl pum wythnos heb gêm, mae tîm Dai Young yn dychwelyd i gystadleuaeth Pencampwriaeth Rygbi Unedig gan edrych i ddringo’r tabl – gyda hyd at bump gêm mewn llaw.
Gyda Caerdydd yn anelu am eu buddugoliaeth cyntaf ym Melffast ers 2010, mae Turnbull yn hyderus y gall ei dîm greu problemau i Ulster, sydd yn eistedd yn ail yn y tabl.
“Mae hi wedi bod yn fis caled i ni, a ni wedi bod yn ymarfer yn galed fel carfan,” meddai’r capten.
“Ond nawr ni’n edrych ymlaen i gael gêm. Mae’n siomedig pan mae gemau yn cael eu galw bant.
“Ond mae cyfle gyda ni nawr i ganolbwyntio ar y sialens nos Wener.
“Nes i ddweud wrth y grwp wythnos diwethaf, mae gemau gyda ni yn dod lan a cyfle i ni ddringo lan y tabl.
“Ni am gymryd hi un gêm ar y tro ac os ni’n gallu gwneud hynny, gobeithio bydd e’n rhoi ni mewn safle da ar ddiwedd y tymor.
“Mae Ulster wedi newid eu gêm tymor ‘ma, a mae nhw’n defnyddio’r blaenwyr lot mwy. Mae nhw’n gyrru pob llinell ac yn mynd am y ciciau cosb yn y sgrym.
“Felly mae nhw wedi newid i ddefnyddio’r pac er mwyn chwarae eu gêm nhw ond mae’n gyfle da i ni fynd mas na a cymryd ein gêm ni atyn nhw.
“Y gêm olaf i ni chwarae oedd yn erbyn Leinster, ac oedd e’n gêm dda i ni. Ond mae’n sbel ers i Gaerdydd ennill mas yn Ulster felly mae’n siawns gwych i ni nos Wener.”
Mae disgwyl y bydd y blaen-asgellwr, Josh Navidi, ar gael ar gyfer y daith, ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd.
Ac er mai dyma’r tro cyntaf iddo chwarae ers mis Hydref, mae Turnbull yn llawn hyder y gall Navidi berfformio i’w lefelau arferol yn syth.
Ychwanegodd Turnbull: “Mae Josh [Navidi] wedi gwneud lot o waith tu ôl i’r llen i wneud yn siwr ei fod o’n ffit iawn i ddod yn ôl.
“Os bydde fe’n chwarae mewn gêm rhyngwladol, fi’n siwr bydde chi methu dweud fod e wedi bod mas ers chwe mis.
“Mae’n gofalu am ei gorff ac mae’n gwneud yn siwr, ar y foment iawn, ei fod o’n chwarae’n dda.”