Turnbull eisiau osgoi Haf hir wrth i Gaerdydd orffen y tymor yn erbyn Benetton

by

in

Mae Josh Turnbull eisiau osgoi cael Haf hir o’i flaen, gan annog ei dîm i orffen y tymor gyda buddugoliaeth yn erbyn Benetton yn ngêm olaf y tymor heno (CG 6.00pm).

Mae tîm Dai Young yn teithio i’r Eidal yn dilyn buddugoliaethau dros Zebre a’r Dreigiau, ond ni fydd modd i glwb y brifddinas orffen yr ymgyrch yn uwch nag 11eg yn y tabl.

Mae Turnbull yn credu y bydd cysondeb yn allweddol i’w dîm er mwyn cystadlu yn y gynghrair tymor nesaf.

“Mae Benetton yn dîm anodd i chwarae yn erbyn, ond os ni’n gallu cadw dyfnder yn yr ymosod a llenwi’r cae gyda chwaraewyr, mae nhw’n gallu dad-gysylltu yn yr amddiffyn,” meddai capten y clwb.

“Byddai hynny’n rhoi cyfle i ni greu cyfleuon, ond ers i Paul Gustard fod ‘na, mae e wedi gwneud lot o waith da gyda nhw.

“Mae cwpwl o chwaraewyr fel Monty Ioane a Rhyno Smith sydd yn gallu creu problemau gyda’r bêl.

“Ond ni wedi bod yn canolbwyntio ar beth ni’n gallu gwneud dros y wythnosau diwethaf a gallwn ni greu problemau iddyn nhw.

“Mae’n gêm bwysig i ni gan ei bod hi’n amser hir tan ni’n chwarae’r gêm nesaf.

“Chi ddim eisiau treulio’r Haf yn meddwl beth bydden ni wedi gallu gwneud yn y gêm olaf ‘na os chi ddim yn ennill.

“Mae amser yn mynd ychydig yn hirach dros yr Haf, felly chi eisiau ennill er mwyn dod yn ôl gyda naid yn eich cam.

“Mae hi wedi bod yn dymor anodd, yn enwedig gyda Covid, a pethau sydd allan o’n rheolaeth ni.

“Ar ôl y chwe gêm cyntaf, roedd y tîm mewn safle da ond roedd hi’n anodd i ni ar ôl dod yn ôl o De Affrica.

“Roedd yr un peth wedi digwydd dros y Nadolig hefyd, a wedi rhoi stop ar y tymor i ni unwaith eto.

“Ni’n gwybod fod rhaid i ni fod yn lot gwell tymor nesaf a sut ni’n delio gyda’r problemau yna.”

Latest news