Rhun Williams wedi cael ei orfodi i ymddeol yn dilyn anaf

by

in

Mae Rhun Williams, cefnwr Gleision Caerdydd, wedi cael ei orfodi i ymddeol ar ôl methu gwella’n llwyr o anaf i’w wddf, a ddioddefodd mewn gêm yn erbyn Zebre ddwy flynedd yn ôl.

Cafodd cyn seren tîm dan-20 oed Cymru anaf i nerfau ymylol ochr chwith ei gorff wrth iddo wneud tacl bwysig nôl ym mis Chwefror 2018.

Mae Williams wedi cael triniaeth ddwys ac asesiadau arbenigol cyson dan ofal Gleision Caerdydd, ond yn anffodus mae’r chwaraewr 22 oed bellach wedi cael cyngor na fydd modd iddo ail-afael yn ei yrfa fel chwaraewr.

Dywedodd Williams: “Yn amlwg dwi wedi fy siomi’n fawr na fyddai’n medru dychwelyd i chwarae rygbi. Dwi wedi gwneud popeth fedra’i i ddod yn ôl, ond mae’n rhaid i mi dderbyn cyngor yr arbenigwr.

“Dwi’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth dwi wedi ei gael gan Gleision Caerdydd a’r WRPA dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig yr adran feddygol, Phil Davies o’r WRPA a fy nghyd-chwaraewyr sydd wedi bod yn wych”.

Dechreuodd Williams chwarae rygbi gyda Chlwb Rygbi Caernarfon, cyn ymuno gydag academi Gleision Caerdydd yn 2016, a mynd yn ei flaen i chwarae 28 o weithiau dros dîm cynta’r rhanbarth.

Roedd yn un o sêr tîm dan-20 oed Cymru wrth iddynt ennill y Gamp Lawn yn 2016, ac enillodd ei le yng ngharfan llawn Cymru y flwyddyn ganlynol, ar ôl creu argraff ar y llwyfan rhanbarthol.

Dywedodd Richard Holland, Prif Weithredwr Gleision Caerdydd : “Mae’n siom fawr i ni fod Rhun wedi cael cyngor i roi’r gorau i chwarae.

“Roeddem i gyd yn ymwybodol o’r gallu a’r potensial oedd ganddo fel chwaraewr, ac rydym wedi ein rhyfeddu gyda’r ffordd y mae wedi delio gyda’i anaf, a’r ymdrech y mae wedi ei wneud i geisio gwella.

“Yn anffodus, mae’r anaf yn golygu diwedd ar ei yrfa fel chwaraewr, ond mae’n parhau fel aelod o’n teulu ni yma, a byddwn yn parhau i’w gefnogi wrth iddo addasu i fywyd oddi ar y maes chwarae.

“Rwyf eisiau diolch i holl staff Gleision Caerdydd, yn arbennig o fewn yr adrannau meddygol a chyflyru, am yr ymdrech a’r gefnogaeth y mae’n nhw wedi ei roi i Rhun. Rydym yn dymuno’r gorau iddo at y dyfodol”.

Ni fydd Rhun Williams na’r Gleision yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd.

Latest news