Rhaid perfformio i’r un safonau os am seilio trydydd buddugoliaeth dros Scarlets – Lewis

by

in

Gyda dwy fuddugoliaeth eisioes wedi ei seilio dros y Scarlets eleni, mae Dillon Lewis yn mynnu fod rhaid i Gleision Caerdydd berfformio i’r un safonau os ydynt am guro’r clwb o Lanelli am y trydydd tro.

Bydd y prop yn cychwyn yn y rheng-flaen unwaith eto brynhawn Sadwrn, ar ôl iddo greu argraff yn y fuddugoliaeth yn erbyn Dreigiau wythnos diwethaf.

Gyda prif hyfforddwr y Scarlets, Glenn Delaney, yn gadael y clwb ar ôl eu buddugoliaeth dros y Gweilch wythnos diwethaf, mae Lewis yn disgwyl gweld ymateb gan y tîm cartref yn Llanelli, ond canolbwyntio ar eu hunain fydd y nôd i ddynion Dai Young.

“Mae’n teimlo fod ni’n cael gêm ddarbi pob penwythnos yma ar hyn o bryd,” meddai’r prop rhyngwladol.

“Mae hi wedi bod yn tymor gwahanol ond chi wastad yn edrych ymlaen i chwarae’r gemau darbi a mae nhw wedi bod yn gemau dda hyd yn hyn.

“Ni wedi curo’r Scarlets dwy-waith tymor yma felly beth ni wedi gwneud wythnos yma yw edrych yn ôl ar sut o’n ni wedi llwyddo i wneud hynny. Bydd rhaid perfformio fel yna unwaith eto penwythnos yma.

“Mae’r gystadleuaeth yma yn un dda i orffen y tymor, achos mae yna lot o stop wedi bod yn ystod y tymor gyda dim llawer o rygbi felly mae’r bois yn hapus i fod yn chwarae’r gemau yma.

“Ni’n disgwyl i’r Scarlets fod fel wounded animal. Pan mae hyfforddwr yn gadael tîm, ti pob amser yn gweld nhw’n dod mas yr wythnos nesaf a rhoi perfformiad mawr i mewn.

“Ni’n gwybod y bydd y Scarlets yn dod gyda pac cryf a cefnwyr da felly dyw’r newyddion ddim yn cymryd i ffwrdd o beth sydd rhaid i ni wneud. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein hunain.”

Mae gemau Cymru ar gyfer yr Haf nawr wedi cael eu cadarnhau, gyda tîm Wayne Pivac yn barod i groesawu Canada a’r Ariannin i Gaerdydd.

Gyda Lewis yn gobeithio ychwanegu i’w 28 cap, mae’n ymwybodol mai gemau Cwpan yr Enfys yw’r llwyfan perffaith iddo wneud ei farc ar yr hyfforddwyr.

“Ti’n gwybod fod yr hyfforddwyr rhyngwladol yn mynd i fod yn gwylio’r gemau darbi yma, a mae nhw yn y stadiwm ar gyfer pob un o’r gemau hyn,” meddai Lewis.

“Felly mae’n siawns i rhoi dwylo lan cyn i’r garfan gael ei enwi ar gyfer y gemau dros yr haf.

“Mae’r gemau hyn cyn diwedd y tymor yn siawns i llawer o chwaraewyr greu argraff i gael y cyfle i chwarae dros Gymru, yn enwedig gyda nifer o’r bois yn mynd gyda’r Llewod.”

Latest news