Rhaid bod yn fwy clinigol meddai Williams

by

in

Mae Lloyd Williams yn mynnu fod rhaid i Gleision Caerdydd fod yn fwy clinigol wrth ymosod, ar ôl colli yn erbyn Leicester Tigers yn y Cwpan Her dros y penwythnos.

Sgoriodd Aled Summerhill gais yn yr hanner cyntaf ym Mharc yr Arfau, ond roedd cic cosb hwyr Tom Hardwick yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr.

Mae’r mewnwr yn dweud fod y garfan gyfan yn hynod siomedig i golli gêm gartref a mae’n rhaid iddynt ddysgu i gadw meddiant am gyfnodau hir.

“Mae’n siomedig i ddod i ffwrdd o’r gêm gyda’r canlyniad yna,” meddai Williams.

“Am lot o’r gêm, roedd y tîm yn chwarae rygbi da ond roedd y pethau bach yn eu hanner nhw yn gadael ni lawr.

“O ni wedi colli’r bêl ar adegau pwysig ac yn gyffredinol, os chi moen curo tîm fel Leicester, mae’n bwysig i gadw’r bêl ac edrych ar ei ôl e. Dyna sydd ei angen i rhoi ychydig bach o bwysau arnyn nhw.

“Pwy bynnag ni’n chwarae, ni wastad yn siomedig os ni’n colli gartref.

“Oeddem ni wedi paratoi am tîm byddai’n fawr ac yn rhoi sialens i ni, a dyna ddaeth Leicester gyda nhw. Mae gyda nhw lot o gryfder yn y garfan, a’r tro nesaf ni’n chwarae yn erbyn nhw, mae’n bwysig i chwarae yn debyg ond i gadw’r bêl yn well.

“Mae hyn yn rhywbeth ni eisiau newid yn gyflym.”

Mae’r canlyniaddau dros y penwythnos yn golygu fod y Gleision yn yr ail safle yng ngrwp pump, gyda dwy gêm yn erbyn Pau ar y gweill.

Ond cyn hynny, mae’r tîm yn dychwelyd i’r Guinness PRO14, gyda taith i wynebu Benetton Rugby yn Yr Eidal.

Mae Williams yn ffyddiog gall ei dîm ymateb dros yr wythnosau nesaf i gael rhediad o berfformiadau cryf yn y ddwy gystadleuaeth.

“Mae bach o waith i wneud yn y grwp, ond mae wastad gwaith i wneud yn y gystadleuaeth yma tan y gêm olaf,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.

“Mae’n bwysig i ni fynd yn ôl i’r gynghrair nawr a mae gêm enfawr yn erbyn Treviso i ddod.

“Tro nesaf ni’n dod i chwarae yn Ewrop, mae’n rhaid i ni ennill i gael cyfle i fynd i’r rownd nesaf.

“Bydd hi’n brawf ar ei carfan ni. Ni’n hyderus fod chwaraewyr da allai gamu i mewn.

“Falle yn y trydydd chwarter oeddem ni’n ceisio chwarae gormod, on ar diwedd y dydd roedd cyfleuon yn eu hanner nhw i ddod bant gyda pwyntiau a o ni’n methu gwneud hynny. Ar y cyfan dyna beth oedd y gwahaniaeth.”

Latest news