Mae Lloyd Williams yn mynnu fod gan Gleision Caerdydd blatfform i adeiladu yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Isuzu Southern Kings wythnos diwethaf.
Mae tîm John Mulvihill yn croesawu Caeredin i Barc yr Arfau prynhawn Sadwrn ar gyfer eu gêm cartref cyntaf o’r tymor (CG 7.15yh).
Cipiodd y Gleision bwynt bonws yn Ne Affrica yn rownd agoriadol y Guinness PRO14, ond fe wnaeth y Kings bethau yn anodd iddyn nhw yn Port Elizabeth.
Mae Williams yn credu fod hi’n bwysig i’r tîm gychwyn y tymor cartref gyda buddugoliaeth arall, ond mae’n disgwyl sialens galed arall gan yr Albanwyr.
“Oedd e’n ddechrau da i ni fel carfan a rhanbarth, felly mae’n bwysig i ni adeiladu ar y fuddugoliaeth ‘na yn erbyn y Kings,” meddai’r mewnwr.
“Bydd chwarae yn erbyn Edinburgh gartref dydd Sadwrn yn gêm bwysig iawn i ni fel tîm.
“Mae pawb yn meddwl efallai bod wythnos diwethaf ddim y perfformiad gorau, ond mae’n positif i gael y buddugoliaeth a pwynt bonws er bod chi heb perfformio cystal.
“Mae pethau bach i newid a pethau i adeiladu arnyn nhw wrth i ni fynd mewn i’r tymor, ond mae pob tîm angen gweithio ar pethau ar ddechrau y tymor a dyna mae wythnos yma wedi bod amdano.
“Mae Caeredin yn dîm da a mae nhw wedi dangos dros y dau dymor diwethaf lle mae nhw wedi dod fel carfan. Mae nhw’n dîm anodd i chwarae yn erbyn ac i ennill yn erbyn.
“Ni, fel carfan, yn gwybod beth yw’r sialens a mae hi’n bwysig i ni berfformio i’r gorau o’n gallu os ni eisiau rhoi ein hunain mewn safle i ennill y gêm.”
Y tro diwethaf i’r tîm cyntaf chwarae ym Mharc yr Arfau oedd 197 o ddiwrnodau yn ôl, lle seiliodd y Gleision fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn y Scarlets.
Mae Williams yn credu fod y stadiwm eiconig yn rhoi hwb i’r tîm, a mae’n edrych ymlaen i glywed y dorf unwaith eto.
Ychwanegodd: “Mae’r bechgyn yn mwynhau chwarae fan hyn a mae’n lle da i chwarae.
“Mae’r dorf wedi helpu ni dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf a dyna pam mae hi’n bwysig i ni fynd mas i chwarae i ni yn ogystal a’r dorf.
“Ni ddim wedi chwarae yma ers amser hir, a dyma’r cyfle cyntaf y tymor yma i nhw gwylio ni a gweld lle ni wedi dod ers tymor diwethaf.”