Rees yn annog chwaraewyr ifanc i fwynhau’r profiad yn erbyn Toulouse

by

in

Mae Gruff Rees yn annog chwaraewyr ifanc Rygbi Caerdydd i fwynhau’r profiad, wrth iddyn nhw baratoi i herio Toulouse yng Nghwpan y Pencampwyr Heineken dydd Sadwrn (1yh).

Mae 11 o chwaraewyr yn paratoi i wneud eu ymddangosiad cyntaf dros y tîm cyntaf ym Mharc yr Arfau, gan gynnwys Jacob Beetham a Theo Cabango, dau o sêr yr academi sydd yn cychwyn yn y tri ôl.

Gyda nifer o sêr y tîm cyntaf yn hunan-ynysu ar ôl dychwelyd o Dde Affrica, mae Rees, sydd yn camu mewn i arwain y tîm, wedi dewis tîm sydd yn cynnwys cymysgedd o chwaraewyr rhyngwladol Cymru a chwaraewyr yr academi ac Uwch-Gynghrair Cymru.

Ond mae Rees yn dweud fod y rhai ifanc wedi haeddu eu lle yn y tîm, wrth i’r garfan uno ar ôl y problemau teithio yn Ne Affrica.

“Mae wedi bod yn gyfnod anhygoel i fod yn deg, a phob clod i’r bois sydd wedi bod mas yn teithio ac yn y gwesty am ddyddiau,” meddai Rees.

“Mae’n rhaid rhoi clod i bobl fel Gafyn Cooper, Richard Holland, Phil Davies o’r WRPA a Mike Brown am dynnu popeth at ei gilydd a chefnogi pawb.

“Mae pawb yn tynhau at ei gilydd a mae hynny’n beth positif i ni fel Rygbi Caerdydd. Ond mae wedi bod yn anodd.

“Mae wedi bod yn sialens i ni baratoi ar gyfer y gêm, ond mae wedi bod yn haws nag beth oedd rhaid i’r bois yn De Affrica a Llundain wneud.

“Nawr mae’n gyfle positif i’r grŵp i fynd mas, gyda’r torf tu ôl i ni, a creu diwrnod da i Rygbi Caerdydd ar y cae.

“Gobeithio bydd pawb yn cefnogi yn gallu gweld rygbi positif a fod bois yn dod trwy’r system.

“Gyda bois fel Theo Cabango a Jacob Beetham, ni’n bositif gyda’r ffordd mae nhw’n datblygu ac yn dod yn eu blaen.

“Mae nhw’n cael cyfle falle bydde nhw ddim wedi gael tymor yma ar ôl rhoi eu troed gorau ymlaen i popeth mae nhw’n gwneud, a hynny mewn grŵp gyda lot o dalent ynddo.

“Mae nhw’n grŵp aeddfed, yn enwedig gyda bois fel Josh Adams, Ellis Jenkins, Seb Davies, Alun Lawrence, James Botham a Tomos Williams. Er fod y bois hyn yn ifanc o ran oedran, mae nhw wedi bod o gwmpas y tîm cyntaf ers amser maith.

“Mae balans i’w gael rhwng y grwp, a mae’n dibynnu ar negeseuon rygbi cryf gan hyfforddwyr fel Richie Rees a T Rhys Thomas.

“Mae strwythr da yma o ran y gwaith corfforol ond y peth pwysicaf yw fod y bois yn joio bod yn rhan o’r gêm broffesiynol.

“Ni ddim eisiau iddyn nhw weld o fel rhywbeth sydd dim ond yn ticio’r bocsus pob wythnos.”

Latest news