Priestland yn ymwybodol or Hanes rhwng clybiau Cymru a Lloegr

by

in

Mae Rhys Priestland yn fwy nag ymwybodol o’r hanes rhwng clybiau Cymru a Lloegr, wrth i Gaerdydd baratoi i wynebu Harlequins a Bath Rugby yn eu paratoadau ar gyfer y tymor newydd.

Os yw’r maswr yn chwarae ei ran yn yr ornest, fe allai wneud ei ymddangosiad cartref cyntaf dros ei glwb newydd yn erbyn Bath, lle dreuliodd chwe mlynedd o’i yrfa.

Fe ddysgodd Priestland am hanes a thraddodiad y gemau rhwng clybiau Cymru a Lloegr yn ystod ei amser yn Y Rec, a mae’n dweud fod elfen gystadleuol gan y ddwy ochr yn ystod y gemau.

“O’n i heb sylweddoli pa mor fawr oedd y cysylltiad rhwng y clybiau cyn mynd lan i Gaerfaddon,” meddai’r maswr.

“O’n i wastad yn gwybod fod y timau yng Nghymru moen maeddu’r Saeson, ond mae nhw’n teimlo yr un peth lan yn fan ‘na.

“Mae’r hen chwaraewyr wastad yn siarad am yr amser o’n nhw’n dod lawr i chwarae yn erbyn timau o Gymru.

“Mae nhw yn gemau sbesial i fod yn rhan ohonyn nhw.”

Chwaraeodd Priestland yn erbyn ei glwb cartref, Scarlets, yn ystod ei amser yng Nghaerfaddon, felly mae’n fwy nag cyfarwydd gyda chwarae yn erbyn ei gyn-glybiau.

Mae Priestland yn mwynhau’r sialens o wynebu ei ffrindiau a mae’n edrych ymlaen i’r ornest ym mis Medi.

Ychwanegodd y maswr rhyngwladol: “Nes i chwarae yn erbyn y Scarlets cwpwl o weithiau yn ystod fy amser yng Nghaerfaddon a mae’n brofiad gwahanol.

“Mae ffrindiau da gyda fi yn y Scarlets a ffrindiau da gyda fi yng Nghaerfaddon. Mae’n hwyl a sbri trwy gydol yr wythnos, yn enwedig cyn ac yn ystod y gêm.

“Felly gobeithio gallwn ni ddatblygu nawr dros y misoedd nesaf a gweithio ar beth ni moen cyn mynd i mewn i’r tymor newydd.

“Ni eisiau bod yn barod i fynd erbyn i’r amser ddod i ni groesawu Caerfaddon i’r stadiwm yng Nghaerdydd.”

Latest news