Pob gêm yn erbyn clybiau Lloegr yn achlysur arbennig – Williams

by

in

Mae Lloyd Williams yn dweud fod awyrgylch arbennig i unrhyw gêm rhwng clybiau Cymru a Lloegr, wrth i Gaerdydd baratoi i wynebu Bristol Bears nos Wener (CG 7.45pm).

Bydd tîm Dai Young yn teithio i Ashton Gate cyn croesawu gwyr Pat Lam i’r brifddinas ym mis Chwefror – y noson cyn i Gymru wynebu Lloegr yn y Chwe Gwlad.

Bydd yr ornest yn pontio’r bwlch rhwng gemau cynghrair y clwb – gyda pedair wythnos o wahaniaeth rhwng y gêm yn erbyn Caeredin a’r daith i Dde Affrica ar ddiwedd y mis.

A mae’r mewnwr Williams yn credu y bydd ffordd Bryste o chwarae yn helpu ei dîm wrth iddyn nhw baratoi i wynebu clybiau De Affrica.

“Pob tro mae cyfle i chwarae yn erbyn tîm o Lloegr, mae’n achlysur fawr. Mae’r dorf wastad yn un swnllyd ac yn ychwanegu i’r awyrgylch,” meddai’r chwaraewr rhyngwladol.

“Fi’n siwr mod i’n siarad dros y bechgyn i gyd pan fi’n dweud fod pawb yn edrych ymlaen at nos yfory. A dim ots pwy sydd yn ennill fory, bydd rhywbeth ar yr ail gêm ym mis Chwefror.

“Ond mae’n bwysig i ni fel tîm i ychwanegu i’n gêm a beth o’n ni wedi wneud yn y bloc agoriadol. Mae’n bwysig i ni roi perfformiad i mewn a wedyn bydd y sgôr ar ein ochr ni hefyd.

“Ni wedi dangos ein bod ni’n gwella ar ddechrau’r tymor, a dim ond elfennau bach oedd y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli.

“Felly ni ddim yn rhoi pwysau i fod yn berffaith, ond os allwn ni ychwanegu i’n gêm yn yr ardaloedd bach ac edrych ar ôl y sgiliau cyffredinol, mae siawns i ni wella.

“Blwyddyn diwethaf, o’n ni heb wneud hynny a roedd rhaid edrych am ffydd eraill i ennill gemau. Ond yn enwedig dros y mis diwethaf, ni wedi gwella yn araf bach mewn ardaloedd, sydd yn helpu ni.

“Mae’r timau yn Ne Affrica yn anodd i’w amddiffyn. Mae ganddyn nhw gymaint o ymosodwyr yn y tîm, a dyna yn union sydd gan Bryste ar hyn o bryd.

“Mae nhw wedi dangos dros y tair mlynedd diwethaf pa mor dda yw’r ardal yna o’r gêm, felly bydd rhaid i ni fod ar dop ein gêm wrth amddiffyn.

“Ond pan mae gyda ni’r bêl, ni eisiau gwneud yr un peth. Mae ‘da ni lot o chwaraewyr sydd yn dda gyda’r bêl yn eu dwylo. Mae nos yfory yn siawns i ni ddangos beth ni’n gallu cynnig.”

Mae Williams hefyd yn credu fod cyfle i chwaraewyr y garfan i greu argraff wrth i Gaerdydd geisio adeiladu ar gychwyn addawol i’r ymgyrch.

“Mae’n siawns gwych i bawb sydd yn cael y cyfle i chwarae dros Caerdydd pob wythnos, a dyw nos yfory ddim yn wahanol,” meddai Williams

“Dyw rhai o’r bechgyn heb chwarae lot tymor yma, ond ar y llaw arall mae rhai eraill wedi chwarae lot o rygbi. Ond beth sydd yn bwysig yw, fel tîm, ein bod ni’n mynd mas i ddangos beth ni’n gallu gwneud.

“Ni eisiau datblygu’r hyder a’r momentwm sydd gyda ni fel carfan ar hyn o bryd.

“Dwi fel unigolyn, a fi’n siwr bod yr un yn wir am lot o’r bechgyn, yn edrych ymlaen at geisio rhoi gymaint a phosib i mewn i’r gemau hyn [yn erbyn clybiau o Loegr].

“Mae ychydig bach o edge ymysg y chwaraewyr ac hefyd yn y dorf. Fel arfer mae lot o gefnogwyr yn teithio lan a mae hynny’n bwysig i ni.

“Ni wastad yn gallu clywed pa mor swnllyd yw hi yn y stadiwm a mae’n beth da i ni fel chwaraewyr.”

Latest news