Blog Banner

Pel-droediwr rhyngwladol yr ysbrydioliaeth i Johnes gyrraedd uchel-fannau y byd rygbi

Cymraeg | 29th January 2021


Mae blaen-asgellwr Cymru a Gleision Caerdydd, Manon Johnes, wedi cyflawni lot yn ei gyrfa hyd yn hyn. Ond, ym mhennod diweddaraf Podlediad Gleision Caerdydd, mae hi’n datgelu mai pel-droediwr rhyngwladol Cymru oedd yr ysbrydoliaeth iddi hi gyrraedd uchel-fannau y byd rygbi.

Gan ennill ei chap rhyngwladol cyntaf pan yn 17 mlwydd oed, mae’r blaenwr - sydd nawr yn 20 mlwydd oed - bellach yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, tra’n chwarae dros Gymru, Gleision Caerdydd a Bristol Bears.

Ond, roedd ei dyddiau cynnar ar y cae rygbi yn ystod ei chyfnod yn Ysgol Glantaf - sydd wedi bod yn gartref i sêr rhyngwladol fel Jamie Roberts, Nicky Robinson, Seb Davies a Rhys Patchell dros y blynyddoedd.

Ei athrawes ymarfer corff yn yr ysgol oedd Gwennan Harries, cyn-beldroediwr Bristol ac Everton wnaeth ennill 56 o gapiau dros ei gwlad.

Mae Johnes yn sicr fod yr ysgol wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ei thaith i’r llwyfan rhyngwladol, wrth i ferched Glantaf gael eu annog i gymryd rhan mewn amryw o chwaraeon gwahanol.

Yn siarad ar y podlediad, sydd ar gael nawr ar y prif lwyfannau digidol, dywedodd Johnes: “Roedd yna bwyslais i gymryd rhan ym mhob camp, nid dim ond rygbi, felly o’n i’n chwarae hoci, pel-rwyd, yn rhedeg traws-gwlad a wedyn mynd i ymarfer rygbi yn y nosweithiau.

“Mae’n gwneud chi’n chwaraewraig chwaraeon yn hytrach nag chwaraewr rygbi yn benodol. Dyw nhw ddim yn gorfodi i chi ddewis un camp.

“Yr athrawes ymarfer corff oedd Gwennan Harries, oedd yn arfer chwarae pel-droed dros Gymru a roedd hi’n fodel rôl i fi achos roedd hi’n gwybod beth mae hi’n cymryd i gyrraedd y safon rhyngwladol.

“Roedd Rhydian Garner yn help hefyd, a roedd nhw i gyd wedi helpu gyda’r gym a rhoi cymhelliant i fi trwy’r amser.

“Roedd tîm merched yr ysgol wedi cystadlu yn Rosslyn Park hefyd a mae Glantaf yn arbennig ac yn unigryw gyda sut mae nhw’n delio gyda chwaraeon.

“Fi’n credu bod nhw wedi gwneud fi’n chwaraewr fwy cyflawn ac y peth pwysicaf fi’n credu yw eich bod chi’n parhau i chwarae gymaint o chwaraeon chi’n gallu, tan fod rhaid i chi stopio.

 

“Pan chi’n cael eich gorfodi i fynd i gymaint o sesiynnau rygbi trwy’r wythnos, chi’n gweld eisiau’r amser pan oeddech chi’n mynd i chwarae hoci neu bel-rwyd, oedd ddim i weld mor bwysig ar y pryd.

“Chi ddim yn sylweddoli ar y pryd, pan mae nhw’n gorfodi chi i redeg traws gwlad a chi’n rhedeg o amgylch y cae am y pumed gwaith, ond dyna beth sydd yn gwneud profiad mewn ysgol.

“Roedd bod yn Glantaf gyda’r holl chwaraeon a’r awyrgylch oedd ar gael yn unigryw.

“Roedd Teddy Williams yn yr un blwyddyn a fi yn chwarae i CRICC, a wnaeth e symud draw i Glantaf ar gyfer y Chweched. Mae Ioan Lloyd, sydd yn chwarae i Bristol Bears, yn un arall oedd yn chwarae i CRICC ar yr un adeg a roedd e’n Glantaf hefyd.

“Ond mae lot o chwaraewyr dod o Glantaf i chwarae ar lefle uchel a mae lot o enwau o gwmpas.

“Yn 2016 o’n ni wedi mynd i Canada gyda hoci a pel-rwyd, a mynd i Toronto ac Ottawa.

“Wedyn yn 2019 fe aethon ni i De Affrica. Roedd y bechgyn wedi mynd ar yr un adeg, ond fe aeth y ddau dîm i gyfeiriad hollol wahanol yn y wlad.

“Roedd heini yn brofiadau rili anhygoel a fi’n credu mod i wedi mwynhau De Affrica gymaint gan ei fod mor wahanol i fan hyn.

“Mae’r ffordd mae nhw’n byw a hanes De Affrica yn hollol wahanol i’r Deyrnas Undeig a oedd e’n neis i gael y profiad o chwarae yn erbyn pobl o wledydd eraill.

“Roedd e’n gyfle gwych a byswn i’n cymryd y cyfle yna eto. Does dim lot o ysgolion sydd yn cynnig tripiau fel ‘na i dimau merched a roedd dros 30 ar pob trip, felly oedd e’n rili da.

“Pan o’n i’n ifanc, rhywun fel Jessica Ennis-Hill oherwydd y Gemau Olympaidd yn 2012 pan wnaeth hi ennill yn yr heptathlon.

“Ond wrth tyfu fyny, roedd y pathway rygbi yn fwy aneglur felly roedd cael modelau rôl o fewn rygbi yn llawer mwy anodd o gymharu â nawr, fi’n credu.

“Felly o’n i’n wir yn edrych lan i Gwennan Harries, athrawes ymarfer corff fi, yn fwy nag o’n i’n meddwl ar y pryd.

“O’n i’n ffocysu lot ar fy hunain yn lle edrych ar bobl eraill, ond roedd hi wastad ‘na yn gwneud yn siwr mod i’n dod i mewn i’r gym am chwech o’r gloch yn y bore.

“Roedd gyda fi arholiadau Lefel A neu TGAU ond dal yn mynd i’r gym yn y bore ar y dyddiau yna ac o’n i byth yn gallu dweud ‘na’ wrthi hi, felly byswn i yn cymryd amser yn pob un traws gwlad neu pob un camp oedd ymlaen.

“Chi’n gwerthfawrogi pobl fel ‘na yn enwedig ar ôl gadael. Roedd hi’n adnabod lot o chwaraewyr Cymru hefyd gan ei bod hi o gwmpas yr oedran yna felly ie, roedd hi’n rhywun o’n i’n edrych fyny ati tra yn tyfu lan.

“Hi oedd wedi gwthio i gael tîm rygbi merched yn Glantaf, a fe wnaethom ni gyrraedd ffeinal Rosslyn Park, oedd yn rhywbeth arbennig.

“Mae gymaint o gyfleoedd i ferched yn Glantaf nawr, a mae’n arbennig iawn i weld.”

Roedd Johnes yn rhan o lawnsiad cit newydd merched Gleision Caerdydd yn ddiweddar, oedd yn hyrwyddo ymgyrch ‘Unstoppables’ World Rugby gyda chymorth gan y noddwyr Route Media, Land Rover, Renishaw a LexisNexis Risk Solutions.

Ond fe wnaeth y myfyriwr Daearyddiaeth dreulio ychydig fisoedd rhwystredig ar yr ystlys, ar ôl dioddef o anaf eithaf anarferol: “Nes i cael dead leg mewn sesiwn ymarfer. Os chi ddim mewn awyrgylch chwaraeon, mae’n anodd esbonio beth yw dead leg. Mae’n nhw’n swnio fel lot llai o waith nag ydyn nhw.

“Ges i’r dead leg, sydd fel contusion i’r coes, ac o’n i mas am cwpwl o wythnose’ a dylai chi ddod yn ôl yn iawn ar ôl hynny.

“Ond roedd yr un yma yn cymryd sbel ac o’n i methu deallt pam o’n i methu cerdded.

“O’n i wedi tynnu mas o un o gemau’r hydref ac yn bwriadu dod yn ôl erbyn yr un nesaf. Felly es i i ymarfer, a nes i fwrw fe eto yn union yr un lle.

“O’n i methu cerdded o gwbwl a dyna’r poen gwaethaf fi erioed wedi cael.

“Oeddwn i dal i drin e fel oedd e’n dead leg, ond wrth gyrru i’r gwaith o’n i’n methu newid y clutch ac o’n i’n methu symud coes fi o gwbwl.

“Oedd e mor stiff, ac ar ôl cwpwl o misoedd roedd y physio ddim yn credu mai dim ond dead leg oedd hwn dim mwy.

“Ges i ultrasound, a beth sydd i fod i ddigwydd fel arfer yw mae’r gwaed i fod i droi yn glais a dod lan i’r croen. Ond yn lle gwneud hynny, wnaeth y gwaed galcheiddio a troi mewn i asgwrn.

“Felly mae dal gyda fi asgwrn 20 centimetr yn quad fi sydd byth yn mynd i fynd.

“Roedd rhaid i fi fynd ar anti inflammatory cryf sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arthritis hefyd. Wnaeth heini help coes fi i symud eto a fi’n credu o’n i wedi anafu o mis Medi tan mis Ionawr.

“Oedd e’n gyfnod eithaf anodd achos o’n i ddim yn gwybod beth oedd yn bod gyda coes fi a roedd e’n frustrating achos o’n i’n cario ymlaen fel mai dead leg oedd e, ond y gwir amdani oedd bod asgwrn ychwanegol yn fy nghoes.

“Felly nawr fi’n chwarae gyda pad enfawr ar coes fi, rhag ofn fi’n bwrw fe eto a methu cerdded!”