Mae pedwar o sêr Gleision Caerdydd wedi cael eu dewis yng ngharfan Cymru i wynebu Fiji dydd Mercher.
Mae’r prif hyfforddwr, Warren Gatland, wedi gwneud dau newid i’w dîm, gyda Ross Moriarty a James Davies yn cael eu cyflwyno i’r rheng-ôl.
Ar ôl serennu fel wythwr wrth i Gymru drechu Georgia ac Awstralia, mae Josh Navidi yn symud i’r crys rhif chwech, tra fod Josh Adams yn parhau ar yr asgell.
Mae Dillon Lewis a Tomos Williams yn cadw eu lle ar y fainc, ac yn ymuno â dau sydd wedi graddio o academi Gleision Caerdydd, sef Rhys Patchell a Rhys Carré, sydd wedi ei enwi yn y garfan o 23 am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth.
Byddai buddugoliaeth yn erbyn Fiji yn symud Cymru gam y nes at sicrhau eu lle ar dop Grŵp D.
Cymru i wynebu Fiji:
1. Wyn Jones (Scarlets) (17 Cap)
2. Ken Owens (Scarlets) (69 Cap)
3. Tomas Francis (Exeter Chiefs) (45 Cap)
4. Jake Ball (Scarlets) (38 Cap)
5. Alun Wyn Jones (Gweilch) (130 Cap) (CAPT)
6. Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (21 Cap)
7. James Davies (Scarlets) (5 Cap)
8. Ross Moriarty (Dreigiau) (36 Cap)
9. Gareth Davies (Scarlets) (46 Cap)
10. Dan Biggar (Northampton Saints) (75 Cap)
11. Josh Adams (Gleision Caerdydd) (16 Cap)
12. Hadleigh Parkes (Scarlets) (20 Cap)
13. Jonathan Davies (Scarlets) (78 Cap)
14. George North (Gweilch) (88 Cap)
15. Liam Williams (Saracens) (60 Cap)
Eilyddion:
16. Elliot Dee (Dreigiau) (24 Cap)
17. Rhys Carre (Saracens) (1 Cap)
18. Dillon Lewis (Gleision Caerdydd) (17 Cap)
19. Aaron Shingler (Scarlets) (22 Cap)
20. Aaron Wainwright (Dreigiau) (14 Cap)
21. Tomos Williams (Gleision Caerdydd) (11 Cap)
22. Rhys Patchell (Scarlets) (15 Cap)
23. Owen Watkin (Gweilch) (17 Cap)