Ni’n benderfynol o ymateb yn erbyn y Scarlets – Adams

by

in

Ar ôl colli yn y munudau olaf yn erbyn y Gweilch ar ddydd Calan, mae Josh Adams yn dweud fod Caerdydd yn benderfynol o ymateb pan mae nhw’n croesawu’r Scarlets i Barc yr Arfau wythnos nesaf.

Croesodd yr asgellwr am gais gwefreiddiol yn ystod yr ail hanner brynhawn dydd Sul – ei 20fed dros y clwb a’r seithfed cais iddo yn y chwe gêm diwethaf.

Ond, er gwaethaf y carreg filltir diweddaraf, roedd yr asgellwr yn siomedig gyda’r canlyniad ar ddiwedd gêm ddarbi agos.

“Oedd e ychydig bach yn siomedig. O’n i’n meddwl byddai’r gêm wedi gallu mynd naill ffordd neu’r llall,” meddai’r asgellwr rhyngwladol.

“O’n ni’n anlwcus yn y diwedd. Mynd am y pyst oedd y dewis cywir, achos roedd hi’n galed i ni heb fachwr ar y cae.

“Oedd hi’n agos, a ni’n siomedig wrth gwrs. Ni moen perfformio wythnos nesaf nawr yn erbyn y Scarlets.

“Ni’n ôl gartref eto, sydd yn bwysig i ni, felly ni’n edrych ymlaen at hynny.

“Doedd dim lot o rygbi yn cael ei chwarae mas ‘na heno. Roedd lot o gicio a roedd y gêm lan yn y blaen.

“O’n i moen cymryd y cyfle pryd daeth e. Roedd hi’n gic wych gan Jarrod a roedd hynny’n rhywbeth o’n ni wedi cael sgwrs amdano yn yr wythnos – bod siawns i ni gael y bêl i’r gwagle yna.

“Felly oedd e’n neis i gael cais, ond y canlyniad yw’r peth pwysig i ni. Fi wedi cael un neu ddau yn ddiweddar ond fi yn edrych i ddatblygu dros y cyfnod yma nawr.

“Fi moen gwella a’r unig beth fi’n edrych ar yw bod yn well yn y gêm nesaf.

“Roedd y glaw yn rili galed erbyn diwedd yr hanner cyntaf. Roedd hi’n eithaf sych erbyn yr ail hanner, ond sai’n gwybod os oeddech chi’n gallu gweld ond roedd hi’n wyntog mas yna hefyd.

“Felly pan oedd y bêl yn yr awyr, roedd e’n galed, ac o’n ni wedi sôn am gael y bêl yn yr awyr mwy. Ond doedd disgyblaeth ni ddim yn wych, ac yn rhoi cyfleuon i’r Gweilch ddod mewn i 22 ni ac o’n nhw’n dda o fan ‘na.”

Roedd Liam Williams wedi dychwelyd i’r tri ôl yn dilyn anaf ar ddiwrnod agoriadol y tymor. Roedd perfformiad y cefnwr yn un o nifer o agweddau positif i dîm Dai Young, a roedd Adams yn falch o gael Williams yn ôl: “Oedd e yn, oedd e’n edrych yn rili da. Mae e wedi bod yn gweithio yn galed yn rehab dros y tri mis diwethaf a oedd e’n edrych fel bod e heb fod mas am y sbel ‘na.

“Oedd e’n wych a mae’n grêt i gael e yn ôl yn y tîm.”

Latest news