Ni’n benderfynol o ddangos beth mae’r clwb yn olygu i ni – Priestland

by

in

Dywedodd Rhys Priestland fod chwaraewyr Caerdydd yn benderfynol o ddangos beth mae’r clwb yn ei olygu iddyn nhw, wrth iddynt drechu’r Scarlets yn Llanelli nos Sadwrn.

Roedd rhaid i’r maswr lenwi’r crys rhif 15 ym Mharc y Scarlets dydd Sadwrn, yn dilyn anafiadau i Liam Williams, Jacob Beetham, Matthew Morgan, Josh Adams a Cameron Winnett.

Dychwelodd tîm Dai Young yn ôl i’r brifddinas gyda’r pedwar pwynt yn dilyn cais Tomos Williams a 11 pwynt o droed Jarrod Evans.

Roedd y seren rhyngwladol yn falch o’r ymdrech a’r galon a ddangosodd y tîm fel ymateb i’r ddwy golled diweddar yn erbyn Glasgow a’r Emirates Lions.

“Yn enwedig wrth edrych yn ôl ar y ddwy gêm ddiweddaraf ni wedi cael, o’n ni heb chwarae’n dda a daethom ni bant yn ail ore’ mewn sawl agwedd o’r gêm, yn enwedig agweddau fel cwmpo ar y bêl a’r stwff sydd ddim yn secsi iawn,” meddai Priestland.

“Ond, o’n ni’n lot gwell yn yr agweddau yna o’r gêm heno. Chi am gael gemau lle chi ddim yn chwarae’n dda iawn, mae pob tîm yn cael gemau fel yna.

“Ond beth sydd yn bwysig yw ein bod ni’n aros mewn gemau a dangos brwydr tu fewn ein bod ni’n gallu aros yn y gemau i gael buddugoliaethau yn y diwedd.

“Mae’n ganlyniad pwysig iawn, ac yn sicr y Scarlets oedd y ffefrynnau cyn y gêm.

“Ond oedd e’n bwysig i ni fel carfan i ddod lawr, ar ôl wythnos diddorol, a dangos faint mae’r clwb yn ei olygu i bawb a gwneud y pethau lle sydd ddim angen unrhyw dalent a fi’n credu ein bod ni wedi gwneud hynny’n dda iawn heno.”

Y dasg nesaf i dîm Dai Young yw croesawu CR Dreigiau i Barc yr Arfau dydd Sadwrn ar gyfer yr ail gêm ddarbi yn olynol.

Ac er fod Caerdydd yn mynd i mewn i’r gêm gyda 13 buddugoliaeth ar y trot yn y gynghrair yn erbyn eu gelynion o Went, mae’r maswr yn barod am her galed yn erbyn tîm Dai Flanagan.

“Dyw’r gemau darbi ddim wastad yn glasuron, ond mae’r Dreigiau yn dîm sydd wedi gwella lot tymor yma,” meddai Priestland.

“Mae sawl chwaraewr da iawn wedi dod i mewn i’r garfan a bydden nhw’n dod lawr i Barc yr Arfau yn llawn hyder.

“Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n dangos yr un brwydr ni wedi dangos heno.

“Gobeithio gallwn ni chwarae ychydig bach yn well wedyn, oherwydd am y rhan fwyaf o’r ail hanner heddiw o’n ni o dan lot o bwysau.”

Latest news