Mae Josh Turnbull yn mynnu mai newidiadau bach yn unig sydd angen ar Gleision Caerdydd wrth i’w dîm edrych i ymateb ar ôl colli yn erbyn Ulster.
Mae’r rhanbarth yn paratoi i deithio i brifddinas Yr Alban nos Lun, er mwyn wynebu Caeredin, sydd yn eistedd bedwar pwynt tu ôl i dîm John Mulvihill yn y tabl.
Mae Turnbull yn credu bydd rhaid gwella disgyblaeth er mwyn lleddfu'r pwysau amddiffynol ond mae'n hyderus y gall ei dîm wneud y gwaith sydd ei angen ar y cae ymarfer.
“Mae’n anodd pan mae tîm fel Ulster yn parcio lan ar y llinell gais am sbel, yn enwedig am 17 munud yn yr hanner cyntaf," meddai'r blaenwr.
“Mae’n tynnu bach o egni mas o ni ac o’n ni’n ffili cael y bêl yn ôl. Pan o’n ni’n ennill y bêl yn ôl, roedd y dyfarnwr yn mynd yn ôl ar gyfer cic cosb iddyn nhw.
“Mae hynny’n anodd a’n bai ni yw e am rhoi gormod o ciciau cosb i ffwrdd yn hanner ni.
“Mae gormod o bwysau yn cael ei adeiladu a mae’n mynd yn anodd wedyn.
“Mae’n dod lawr i bethau hawdd gallwn ni weithio arnyn nhw yn yr wythnos. Mae disgyblaeth yn ein hanner ni yn un o’r pethau hynny.
“Os ni’n sortio hynny mas byddwn ni ddim yn rhoi cyfle i dimau fel Ulster i gampio ar y llinell gais.”
Gyda galwadau rhyngwladol yn effeithio'r ddau dîm, mae Turnbull yn ymwybodol o'r sialens sydd yn wynebu Gleision Caerdydd yng Nghaeredin. Ond mae'n credu gall ei dîm roi eu stamp ymosodol ar yr ornest.
“Mae Caeredin wedi colli lot o chwaraewyr i’r tîm rhyngwladol, ond mae’n nhw dal yn dîm anodd i wynebu," ychwanegodd Turnbull.
“Daethom ni’n ôl gyda pwynt o Murrayfield llynedd. Oedd hi’n gêm anodd, a bydd rhaid i ni newid ein tactegau.
“Mae nhw’n cicio lot, mae llinell symudol dda gyda nhw a bydd hynny’n rhywbeth i ni edrych arno wythnos hyn.
“Yn y ddau gêm diwethaf mae pethau syml gallwn ni newid. Os ni’n llwyddo i wneud hynny, byddwn ni’n lot well.
“Ni eisiau cadw’r bêl yn eu hanner nhw oherwydd ni wedi dangos bod ni’n gallu creu problemau i unrhyw dîm yn y gynghrair.”