Navidi allan o weddill Cwpan y Byd
Cymraeg | 21st October 2019
Mae anaf i llinyn y gar yn golygu y bydd Josh Navidi yn methu gweddill ymgyrch Cwpan y Byd Cymru.
Fe wnaeth y seren Gleision Caerdydd ddioddef yr anaf yn ystod hanner cyntaf y fuddugoliaeth dros Ffrainc dydd Sul, a mae Cymru wedi cadarnhau na fydd Navidi yn holliach i chwarae ei ran yn y ddwy gêm olaf yn y gystadleuaeth.
Mae tîm Warren Gatland yn paratoi i wynebu De Affrica yn y rownd gyn-derfynol yn Yokohama dydd Sul. Byddai buddugoliaeth dros y Springboks yn cadarnhau eu lle yn y rownd derfynol am y tro cyntaf. Ond os yw Cymru yn colli yn erbyn tîm Rassie Erasmus, byddai'n rhaid iddyn aros yn Japan i chwarae am y trydydd safle.
Navidi oedd un o sêr Cymru yn ystod y gystadleuaeth, gan wneud argraff wrth ymosod ac amddiffyn.
Mae'r prif hyfforddwr, Gatland, wedi cadarnhau y bydd cefnwr yn cael ei alw i'r garfan, gyda cyhoeddiad i'w ddisgwyl yn fuan.