Mae Harri Millard yn credu gall Gleision Caerdydd fod yn bositif ar ôl iddynt sicrhau dau bwynt bonws yn erbyn Glasgow Warriors dros y penwythnos.
Gyda’r ddau dîm yn sgorio pum cais yr un, troed Peter Horne oedd y gwahaniaeth ar y noson, wrth i’r Albanwyr adael y brifddinas gyda’r uchafswm o bump pwynt.
Roedd y ddau bwynt yn golygu fod tîm John Mulvihill yn gyfartal â’r Gweilch yn y tabl, gyda Connacht ar y blaen yn y trydydd safle o bedwar pwynt.
Roedd y canolwr yn falch o agwedd ei dîm tuag at ddiwedd yr ornest, ond mae’n mynnu fod rhaid iddynt ddysgu eu gwers o’r hanner cyntaf.
“Mae’n rhaid i ni gymryd y ddau bwynt bonws a bod yn hapus gyda hynny, oherwydd gyda 15 munud yn weddill, roedd ‘da ni ddim pwyntiau o gwbwl,” meddai Millard.
“Bydden ni wedi gallu cipio’r fuddugoliaeth yn y diwedd, ond wnaeth e ddim digwydd i ni tro hwn.
“Ond mae Glasgow yn dîm caled iawn i wynebu, a mae nhw wedi bod tuag at frig y tabl trwy’r tymor am reswm.
“Roedd hi’n siom i golli’r gêm, oherwydd roedd gyda ni’r momentwm yn mynd mewn i’r pum munud olaf.
“Pan oeddwn i’n gweld Matthew Morgan yn mynd lawr yr asgell tuag at y diwedd, roeddwn yn teimlo fod unrhyw beth yn gallu digwydd.
“Ni wedi chwarae yn erbyn Glasgow pedair gwaith tymor yma a mae nhw wedi llwyddo i guro’r gêm yn yr hanner cyntaf a sgorio dros 20 pwynt yn erbyn ni.
“Mae’n siomedig oherwydd fel tîm ni wedi gweithio yn galed yn ymarfer wythnos yma a ceisio gwneud popeth yn gywir.
“Mae hi’n agos iawn am y trydydd safle ar y foment, a mae’n rhaid i ni ennill rhan fwyaf o’n gemau ni rhwng nawr a diwedd y tymor.
“Mae am fod yn galed, ond mae’n rhaid i ni barhau i ymarfer galed a paratoi yn gywir i wynebu pob tîm o wythnos-i-wythnos.
“Rhaid i ni daflu popeth at hwn oherwydd does dim byd i’w golli.”