Mae’n rhaid i Gaerdydd haeddu buddugoliaeth trwy eu perfformiadau, meddai Duane Goodfield.
Mae clwb y brifddinas yn paratoi i groesawu Zebre Parma i Barc yr Arfau nos Wener ar gyfer gêm gartref olaf y tymor.
Mae’r is-hyfforddwr wedi rhybuddio ei dîm am berygl yr Eidalwyr ond mae’n mynnu fod y garfan yn benderfynol i greu cyfle i ddathlu i’r cefnogwyr.
“Ni’n siomedig gyda’r canlyniadau diweddar ond mae’n bwysig ein bod ni’n gorffen yn gryf,” meddai Goodfield.
“Ni angen chwarae yn dda yn enwedig gan mai’r gêm yn erbyn Zebre yw’r olaf i ni gartref. Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi perfformiad da i mewn.
“Does neb eisiau colli gemau felly mae’n bwysig cael perfformiad sydd yn haeddu buddugoliaeth.
“Mae Zebre yn dîm sydd yn llawn bois sydd wedi chwarae dros Yr Eidal, a mae ganddyn nhw bac mawr.
“Gyda’r cefnwyr tu ôl, os ydym ni’n cicio yn rhydd bydden nhw’n rhedeg yn syth yn ôl atom ni.
“Felly mae angen i ni fod yn gryf trwy’r ymosod yn ogystal ag wrth amddiffyn.”
Bydd tîm Dai Young yn edrych am ymateb ar ôl mis Ebrill siomedig, ond mae Goodfield yn credu fod platfform i adeiladu ar ôl perfformiad addawol yn erbyn Munster wythnos diwethaf.
Dywedodd y cyn fachwr: “Y ffordd o’n ni wedi dechrau yn erbyn Munster wythnos diwethaf, roedd y 20 i 30 munud cyntaf yn wych.
“Roedd y bois yn chwarae yn gyflym, yn sgorio ceisiau ac yn amddiffyn yn gryf.
“Ond pan daeth y fainc ymlaen i’r ddau dîm fe wnaeth llif y gêm newid.
“Ni’n gwybod hynny ond mae’n bwysig ein bod ni’n dal ati am yr 80 munud a bod mor gyson a phosib.”