Mae Max Llewellyn yn benderfynol o ddangos ei fod yn gallu cynnig ei hun fel chwaraewr cyflawn i Gaerdydd, ar ôl cychwyn y tymor yn gryf i’w glwb cartref.
Yn dilyn diweddglo cryf i’r tymor diwethaf, mae’r canolwr wedi parhau i greu argraff yn nhîm Dai Young, gan wisgo’r crys rhif 12 yn nwy gêm agoriadol yr ymgyrch.
Ond mae Llewellyn yn mynnu fod digon o le i wella ei gêm, a mae’n gobeithio parhau i ddangos ei allu wrth i Gaerdydd groesawu’r Emirates Lions i’r brifddinas nos Wener.
“Dwi’n dwlu cael y cyfle ar y foment a fi eisiau rhoi fy llaw lan i gychwyn yn rheolaidd,” meddai’r cyn-chwaraewr dan-20 Cymru.
“Ges i lot o’r bêl yn yr 20 munud cyntaf yn Glasgow, ond mae’n rhaid i fi dal i weithio a ceisio cael mwy o gyffyrddiadau yn yr ail hanner a peidio diflannu allan o’r gemau.
“Fi’n credu bod mwy i gêm fi nag rhedeg yn syth a cario’r bêl. Gobeithio allai ddangos hynny, a fi’n meddwl nes i yn erbyn Munster a gobeithio yn erbyn Lions allai ddangos mwy eto.”
Datgelodd Llywellyn fod carfan Caerdydd yn benderfynol o ymateb ar ôl colli i Glasgow wythnos diwethaf, ond mae’n ymwybodol o’r sialens o’u blaenau yn erbyn y tîm o Dde Affrica: “Roedd pawb yn siomedig gyda’r canlyniad ond ni’n edrych nawr ar fownsio yn ôl a chael perfformiad gwell yn erbyn y Lions.
“O’n ni wedi dechrau yn dda yn erbyn Glasgow ac erbyn y gêm nesaf mae hynny’n rhywbeth mae’n rhaid i ni fynd yn ôl ato.
“Ni eisiau perfformio fel yr 20 munud cyntaf yn Glasgow, ond ar ôl hynny wnaeth y disgyblaeth adael ni i lawr felly mae’n rhaid i ni gywiro’r camgymeriadau ni wedi gwneud a gwella o fan ‘na.
“Mae pethau fel cardiau melyn yn gadael i’r gwrthwynebwyr ddod yn ôl i mewn i’r gêm felly mae’n rhaid i ni dorri hynny allan o’r gêm a gobeithio gallwn ni gario ymlaen i chwarae yn well.
“Dwi dal yn credu fod pethau allwn ni adeiladu arno. Roedd pethau da am y perfformiad yn yr hanner cyntaf ac yn yr ail hanner o’n ni’n agos cwpwl mwy o weithiau i sgorio ceisiau.
“Ond fel o’n i’n dweud, roedd e’n anodd ar ôl cael dau gerdyn melyn a fe wnaeth y disgyblaeth adael ni lawr.
“Roedd y Lions wedi ennill lawr yn erbyn y Gweilch a fi’n siwr bydden nhw lan am y gêm, ond byddwn ni hefyd. Ni’n chwarae yn ôl gartref felly ni’n edrych ymlaen.
“Os i chi’n gallu stopio’r blaenwyr, mae hi’n haws i stopio’r cefnwyr. Mae cefnwyr da gyda nhw ond fel arfer, os ydych chi’n stopio blaenwyr, mae’n helpu allan gyda lot o bethau eraill.”