Ar ôl cwblhau’r daith seiclo epig o Gaerdydd i Baris dros yr Haf, mae Max Llewellyn wedi dychwelyd i ymarfer a mae’n barod i gymryd ei gêm i’r lefel nesaf.
Yr 11 ymddangosiad dros y tîm cyntaf llynedd yw’r mwyaf mae’r canolwr wedi ei wneud mewn tymor dros clwb y brifddinas.
Ond roedd hi’n sialens go wahanol i’r cyn-ddisgybl Glantaf dros yr Haf, wrth iddo seiclo dros 500km - o Gaerdydd i Baris - er mwyn codi arian dros Sefydliad Cymuned Rygbi Caerdydd a #StayStrongForOws.
A tra fod Llewellyn yn falch o weld y grwp yn codi mwy nag £30,000 i’r achos, mae hefyd wedi dychwelyd i Gymru gydag atgofion i’w trysori: “Oedd e’n brofiad anhygoel ac o’n i wedi dwli gwneud e. O’n i mor hapus mod i wedi cwblhau e.
“O’n i’n meddwl yn ystod y tymor falle bydde fe ddim yn bosib i fi ond ar ôl gorffen o’n i mor hapus.
“Oedd e’n ffordd neis i gwrdd â pobl newydd a treulio oriau gyda nhw ar y beic yn siarad.
“Fi’n siwr y byddai’n cadw cysylltiad gyda nhw pan mae nhw’n dod i gemau neu dros y wê.
“Yr uchafbwyntiau oedd gorffen pob dydd, bod gyda’n gilydd yn siarad a’n rhannu atgofion.
“Tuag at diwedd y dydd yn Bath oedd yr isafbwynt siwr o fod. Roedd e’n galed iawn ond nes i dal joio.
“O’n i ddim yn deallt yn iawn beth oedd gwaith Sefydliad y Gymuned ar y dechrau. Ond wrth fod yn rhan o’r daith, o’n i’n gallu gweld beth mae nhw’n gwneud a pwy mae nhw’n helpu. Felly mae’n gret i allu mynd i mewn a helpu allan.
“Roedd e’n sialens gwbl newydd ac tu allan i’r comfort zone i fi, ond nes i dal fwynhau.
“Roedd e’n dda, ar yr wythnos olaf cyn dod yn ôl i mewn, i adeiladu cyn mynd yn ôl i ymarfer.”
Fe wnaeth y canolwr orffen y tymor yn gryf, yn cyfuno â Rey Lee-Lo a Mason Grady yn y canol ac yn croesi am ddau gais yn ei dri ymddangosiad olaf.
Mae Llewellyn yn dweud fod y gystadleuaeth am le yng nghanol cae yn gyrru pawb i wella, wrth iddo dargedu lle parhaol yn y crys rhif 12 yn nhîm Dai Young.
Ychwanegodd Llewellyn: “O’n i wedi gorffen yn tymor yn dda, a’r sialens nawr yw i gadw’r lefel yna a mynd i lefel arall eto.
“Mae’n rhaid parhau i wella. Dyna beth ni wastad yn dweud, a dyna sut mae cyfleuon yn dod.
“Mae grwp agos o ganolwyr yn fan hyn, a mae’n gymysgedd da ac yn gystadleuaeth da. Dyna un o’r pethau pwysicaf oherwydd mae cystadleuaeth yn helpu i wthio ein gilydd i fod yn well. Fi’n siwr bydd hi’n dymor da.”
Yn dilyn ymdrech y daith o Gaerdydd i Baris, mae dal modd i chi gefnogi'r achos, gyda'r holl arian yn mynd tuag at Sefydliad Cymuned Rygbi Caerdydd a #StayStrongForOws. Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.