Mae Dillon Lewis yn benderfynol o wneud y mwyaf o’i gyfle, ar ôl cael ei enwi i ddechrau’r gêm yn erbyn Canada dydd Sadwrn.
Ar ôl dioddef o anafiadau yn hanner cyntaf y tymor, fe wnaeth y prop orffen 2020/21 gyda’i glwb yn gryf, a mae’n cael ei wobrwyo gyda cap rhif 29 dros ei wlad.
Ond, gan mai dim ond 10 gwaith mae wedi cychwyn gêm yn y crys coch hyd yma, mae Lewis yn benderfynol o greu argraff yn y ras am y crys rhif tri, a mae’n teimlo fod ei berfformiadau dros ei glwb wedi rhoi momentwm iddo cyn yr Haf.
“Fi’n edrych ymlaen i ddechrau. Fi wedi cael tymor drwg gydag anaf a pethau fel yna, ond fi’n hapus nawr i fod allan ar y pen arall,” meddai cynyrch academi Caerdydd.
“Fi wedi llwyddo i chwarae tipyn o rygbi cyn dod mewn i’r camp, fi’n hapus gyda hynny ac nawr yn gyffrous i fynd allan dydd Sadwrn a chwarae unwaith eto.
“Mae’n rhaid i fi gymryd fy siawns nawr. Roedd adegau yn y tymor lle doedd dim llawer o rygbi i fi oherwydd anafiadau.
“Mae’n gyffrous i gael y siawns yma a gallaf ddiolch i Wayne am roi e i fi. Ond mae’n rhaid i fi gymryd e nawr.
“Gyda gymaint o fois yn mynd i ffwrdd gyda’r Llewod, mae’n rhoi cyfle i fois eraill ddod i mewn. Dyma’r cyntaf i rhai ohonyn nhw a mae’n brofiad cyffrous.
“Mae nhw fel ‘kids at Christmas’ gallet ti ddweud. Mae’n dda i weld bois fel Ben Thomas yn cael siawns ar y penwythnos.
“Fi wedi chwarae gyda fe trwy’r tymor a fi’n gwybod fod e ddim yn gallu aros. Mae Ben Carter yn un arall sydd wedi ymarfer yn dda a bydd hi’n dda i weld e yn mynd dydd Sadwrn.
“Mae teimlad da o gwmpas y camp.”
Bydd Stadiwm y Principality yn croesawu cefnogwyr i’r dorf am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig.
Mae Lewis yn edrych ymlaen i chwarae o flaen y dorf unwaith eto ond mae’n ymwybodol o’r sialens sydd yn wynebu Cymru – gyda Rob Howley, Byron Hayward a Kingsley Jones yn rhan o’r tîm hyfforddi.
“Fi’n credu y bydd hi’n cymryd amser i arfer eto. Mae’n neis i gael y dorf yn ôl, er mai dim ond wyth mil yw e, ond bydd e’n dda. Sai’n gallu aros am hynny.
“Bydd e’n gêm galed fi’n siwr, ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar beth ni’n gallu dod i’r gêm.
“Gyda llawer o chwaraewyr yn cael eu cap cyntaf, mae’n rhaid i fois sefyll lan.
“Fi’n siwr y bydd Canada yn galed, mae tri hyfforddwr gyda nhw o Gymru a bydden nhw’n gwybod beth i ddisgwyl.”