Mae Dillon Lewis yn benderfynol o greu hanes, wrth i Gymru baratoi ar gyfer yr ornest gyn-derfynol Cwpan y Byd yn erby De Affrica yn Yokohama dydd Sul.
Mae’r cynnyrch academi Gleision Caerdydd wedi sefydlu ei hun fel aelod pwysig o garfan Warren Gatland dros y ddwy flynedd diwethaf.
Y prop 23-mlwydd-oed yw un o naw o chwaraewyr i chwarae ym mhob gêm o’r ymgyrch hyd yn hyn.
Mae ei lwyddiant yn y crys coch yn drawiadol. Lewis yw’r chwaraewr â’r canran uchaf o gemau wedi ennill ar gyfer unrhyw un sydd wedi chwarae 20 neu fwy o gemau dros Gymru [90 y cant].
Mae’r prop yn mynnu ei fod eisiau ychwanegu rownd derfynol Cwpan y Byd i’w CV, ond mae’n fwy nag ymwybodol o’r sialens sydd o’i flaen yn erbyn tîm corfforol De Affrica.
“Mae De Affrica yn dîm corfforol gyda pac mawr a pac cryf,” meddai Lewis.
“Ni’n gwybod bod job mawr i ni wneud fel pac, ond yn y gemau yma ac yn erbyn chwaraewyr fel hyn wyt ti eisiau chwarae. Mae’n amser cyffrous.
“Dyma’r math o flaenwyr chi eisiau profi eich hunain yn erbyn wrth dyfu lan.
“Mae chwarae yn erbyn rhywun fel y Beast [Tendai Mtawarira] er enghraifft - mae’n foi mawr sydd yn cael ei adnabod am ei waith yn y set piece - yn rhywbeth fi’n edrych ymlaen amdano.
“Ar ôl y gêm yn erbyn Ffrainc, fi’n siwr mae pawb wedi gweld bod y gwesty yn llawn o gefnogwyr Cymru.
“Os mae hynny i’w weld yn digwydd yn fan hyn, fi’n siwr bod hi’n sbesial adref yng Nghymru hefyd.
“Byddai cyrraedd y rownd derfynol yn anhygoel, ond mae’n rhaid ennill y semi final gyntaf.
“Mae’n rhywbeth chi ddim yn meddwl gormod amdano fe cwpwl o fisoedd yn ôl ond ni yma nawr a ni’n gwybod bod job i ni wneud.
Mae’n amser cyffrous i fi ac i ni fel tîm. Chi’n teimlo hwna o fewn y camp er bod dyddiau tan y gêm. Mae’n rhywbeth ni’n canolbwyntio arno.
“Mae’r staff yn edrych ymlaen i’r gemau a mae’n gyfle i ni chwarae yn y ffeinal.”
Daeth Lewis o’r fainc gyda Elliot Dee a Rhys Carré i greu argraff yn erbyn Ffrainc a newid momentwm y gêm.
Roedd eu gwaith yn y sgrymiau yn allweddol i’r fuddugoliaeth, gan arwain at gais Ross Moriarty i ennill y gêm.
Mae Lewis wedi adlewyrchu ar ddwy flynedd rhyfeddol ar y llwyfan rhyngwladol ac yn pwysleisio pwysigrwydd y fainc i gael effaith ar y gemau.
Esboniodd y prop: “50 munud i mewn i’r gêm yn erbyn Ffrainc, roedd pawb yn sylweddoli ein bod ni ar ein ffordd gartref dydd Llun. Doedd neb eisiau hynny.
“Roeddem ni wedi siarad o flaen llaw am beth oedd rhaid i ni wneud wrth i ni fynd ymlaen ar y cae. Ein job ni oedd codi’r tempo a dod a rhywfaint o gyffro i’r gêm. Yn y sgrymiau roedd rhaid i ni ymosod, a roedd hi’n gyfle da i ni wneud hynny.
“Roedd pawb eisiau gwneud yn siwr bod ni ddim yn gadael unrhyw beth ar y cae, a mae llawer o credit i Rhys am y sgrym olaf. Roedd e wedi sefyll lan a gwneud job dda.
“Mae’n dda i cael effaith o’r fainc, a dyw chwarae yn yr wyth olaf yn Cwpan y Byd ddim yn cyfle ti’n cael yn aml.
“Dyw e ddim yn digwydd yn aml yn eich gyrfa felly mae e’n gyffrous.
“Fi ddim yn gallu credu bod fi yma. Mae hi wedi bod yn rollercoaster i fi yn bersonol dros y ddwy flynedd diwethaf.
“Ychydig fisoedd yn ôl, os byddai rhywun wedi dweud y byswn i yma, bydden i ddim wedi credu nhw. Mae’n siawns fi’n falch o gael.”
Cafodd Josh Navidi anaf i linyn y gar yn erbyn Ffrainc, gan adael y maes wedi 28 o funud, a mae Gatland wedi cadarnhau ni fydd y blaenwr ar gael i chwarae yn y ddwy gêm olaf.
Mae asgellwr ifanc Gleision Caerdydd, Owen Lane, yn cymryd lle Navidi yn y garfan, ar ôl iddo sgorio cais ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn erbyn Iwerddon yn yr Haf.
Mae Lewis yn cyfaddef fod Navidi yn golled i’r tîm, ond mae’n hyderus gall Lane gyfrannu i’r garfan.
Dywedodd Lewis: “Mae e’n gymeriad da yn y garfan a sai’n gallu aros i weld e nawr.
“Bydd e’n addition da i’r garfan a mae ganddo fo llawer i ddweud. Mae’n hyderus a bydd hi’n dda cael e allan yma.
“Mae’n siom mawr i golli Navidi. Mae e wedi chwarae yn ardderchog hyd yn hyn a mae e wedi cael Cwpan y Byd briliant.
“Mae’n siom mawr i weld Cwpan y Byd yn gorffen yn gynnar iddo fe. Ond mae ‘na carfan dda gyda ni gyda bois sydd yn gallu camu lan a gwneud y job.”