Harries â’i lygaid ar floc hanfodol o gemau Guinness PRO14

by

in

Mae Jason Harries gyda’i lygaid ar floc hanfodol o gemau Guinness PRO14, ar ôl i’r asgellwr ddychwelyd o anaf yn ystod y fuddugoliaeth dros y Gweilch wythnos diwethaf.

Y gêm dydd Gwener oedd ymddangosiad cyntaf o’r tymor i Harries, ar ôl iddo wella yn dilyn dwy anaf i’w ben-glin.

Mae’n gobeithio y bydd y gêm yn helpu i dîm Dai Young baratoi ar gyfer pedair gêm olaf y PRO14 a mae’n credu fod rhaid o chwaraewyr ifanc y garfan wedi creu argraff yn yr ornest.

“Mae hi wedi bod yn amser sbel ers i fi fod mas ar y cae ‘na yn chwarae,” meddai’r cyn chwaraewr saith-pob-ochr Cymru.

“Mae hi’n neis i fod yn ôl ac yn chwarae a roedd hi’n neis i fod yn ôl ym Mharc yr Arfau ‘fyd.

“Oedd e’n neis i gael y fuddugoliaeth. O’n ni wedi siarad trwy’r wythnos am y gêm ac am bigo momentwm lan cyn y pedair gêm pwysig sydd yn dod lan i ni.

“Ni wedi sgorio chwe cais yn erbyn y Gweilch, ond mae lot o fois ifanc wedi rhoi dwylo lan ‘fyd felly roedd hi’n bleserus iawn.

“So ni wedi cael lot o amser i gael y gemau hyn i mewn, a ni heb chwarae ers rhyw dair neu bedair wythnos.

“Felly i gael amser yn erbyn y Gweilch, a dyw hi byth yn gêm ‘gyfeillgar’, mae’n neis i gael rygbi o dan y belt.

“Ar ôl bloc mawr o gemau, mae wastad yn neis cael cwpwl o wythnose bant, ond cyn i ni fynd mewn i bloc pwysig arall bydd hwn yn helpu ni nawr.

“Felly os oes cyfleuon i gael y gemau hyn, man y man.”

Latest news