Grady yn benderfynol o wneud y mwyaf o’i gyfleoedd

by

in

Mae Mason Grady yn benderfynol o wneud y mwyaf o’i gyfleoedd, ar ôl disgleirio yn y fuddugoliaeth dros Gweilch.

Roedd y canolwr ifanc yn fygythiad i amddiffyn y tîm oddi-cartref trwy’r prynhawn, gan chwarae rhan allweddol yng ngheisiau Aled Summerhill ac Ellis Jenkins.

Nawr mae’r cynnyrch academi Gleision Caerdydd, wnaeth ei ymddangosiad PRO14 cyntaf yn gynharach eleni, eisiau parhau i ddatblygu, dysgu a rhoi ei farc ar y tîm cyntaf.

“Roedd e’n gyfle gwych i fi gael chwarae, a fi’n credu roedd e y math o gêm fi’n mwynhau,” meddai Grady.

“Nawr fi’n gobeithio alla’ i gadw i cael fy nghyfle yn y tîm.

“Fi’n falch iawn gyda sut aeth y gêm. O’n i’n ceisio cael y pêl yn dwylo fi mwy a mwy wrth i’r gêm fynd ymlaen a mae profiadau fel hyn yn helpu datblygiad fi.

“Mae’n gyfle gwych i gael dysgu gan bois fel Dan Fish, Owen Lane ac Aled Summerhill. Fi’n gwneud hynny yn ymarfer ond mae’n well eto pan chi’n cael chwarae gyda nhw hefyd.

“Roedd hi’n wych i chwarae yn y canol gyda Max yn enwedig, gan fod y ddau ohonom ni wedi chwarae dros Glantaf.

“Fi’n gobeithio cael cyfle yn erbyn Connacht, ond bydd hynny lan i Dai. Os fi yn cael y cyfle, fi’n gobeithio cymryd e.

“Mae wedi bod ychydig bach yn siomedig i beidio chwarae dros dîm dan-20 Cymru eleni ond mae’r cyfleuoedd yn Gleision Caerdydd wedi bod yn wych. Gobeithio galla’ i gadw i fynd.”

Cic Grady rhoddodd y cyfle i’r blaenasgellwr, Jenkins, groesi’r gwyngalch yn ei gêm gyntaf ers dros ddwy flynedd.

Mae seren dan-20 Cymru yn falch o weld capten y clwb yn dychwelyd wedi anaf i’w ben-glin – er mae’n teimlo y gallai ef wedi sgorio’r cais ei hun!

Mae Grady yn ychwanegu: “O’n i’n credu mod i am gael y cais, ond roedd Ellis wedi dwyn e oddi wrth fi!

“Ond roedd hi’n wych i Ellis gael cais ar ei gêm cyntaf yn ôl ar ôl yr anaf.

“Gobeithio gallith e gario ymlaen nawr a cael ei hun yn ôl i carfan Cymru.”

Latest news