Gornest yn erbyn Harlequins yn gip-olwg or rygbi cyffrous ni eisiau chwarae – Lawrence

by

in

Roedd gornest agoriadol yr Haf yn flas o’r rygbi cyffrous a chyflym mae Caerdydd eisiau ei chwarae, yn ôl Alun Lawrence.

Croesodd y cyn seren dan-20 Cymru ddwywaith wrth i Gaerdydd a Harlequins fynd ben-ben â’i gilydd yn Llundain.

Ac er mai colli oedd eu hanes yn erbyn pencampwyr Lloegr, roedd gan Lawrence digon o resymau i fod yn bositif wrth i gychwyn Pencampwriaeth Rygbi Unedig agosau.

“O’n i’n joio’r hanner cyntaf yn enwedig ond yn yr ail hanner roedd y Quins wedi cychwyn yn gryf,” meddai’r blaenwr.

“Oedden nhw’n gyflym ac yn chwarae gyda lot o sgiliau neis.

“Ond o’n rhan ni, fel chwaraewyr a carfan, ni moen bod yn well yn dod mas ar gyfer yr ail hanner.

“Ni’n gyfforddus gyda’n ffitrwydd a ni moen chwarae’n gyflym fel y wnaeth Quins, felly ni angen gwneud yr un pethau a’r hanner cyntaf.

“O’n ni’n chwarae ein tempo ni ac yn dangos ein sgiliau ni, ac yn dangos mewn gêm beth ni wedi bod yn gweithio arno yn ymarfer dros yr Haf.

“Mae lot o ganmoliaeth i’r bechgyn o gwmpas fi am y ceisiau. Dim ond cwympo dros y lein nes i.

“Y bois tu ôl i fi wnaeth wthio fi drosodd a fe wnaethom ni ddod at ein gilydd fel carfan.”

Ond, gyda llai na thair wythnos tan mae’r tymor cystadleuol yn cychwyn ym Mharc yr Arfau, mae’r wythwr yn mynnu mai cymryd y tymor o wythnos i wythnos bydd ei dîm.

“Ni’n hyderus fel carfan a mae pawb moen ennill pob gêm a chi moen chwarae mewn rowndiau terfynnol ac ennill cwpannau,” meddai’r cyn ddisgybl Ysgol Llanhari.

“Ond ni am gymryd y tymor o gêm i gêm, un ar y tro, a cheisio bod yn well na’r gêm cynt.

“Dyna beth ni moen. Ni moen cystadlu i’r gorau ni’n gallu a dyna i gyd ni’n gallu gwneud ar hyn o bryd.”

Latest news