Gornest Bryste wedi ein paratoi ar gyfer De Affrica – Harries

by

in

Mae Jason Harries yn ffyddiog fod gan Gaerdydd le i fod yn bositif cyn eu taith i Dde Affrica ddiwedd y mis.

Roedd yr asgellwr yn trafod y daith ar ôl i dîm y brifddinas golli mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Bryste nos Wener.

Ond mae Harries yn credu fod yr ornest yn gam mawr i’w dîm wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Cell C Sharks a Vodacom Bulls.

“Ni ychydig bach yn siomedig. O’n ni wedi dechrau ychydig yn araf yn yr hanner cyntaf, a sgoriodd Bryste cwpwl o geisiau. Roedd y diffyg disgyblaeth wedi costio ni, ond fe wnaethom ni drio dod yn ôl i mewn i’r gêm,” esboniodd yr asgellwr.

“Gaethom ni gerdyn melyn yn gynnar yn yr hanner cyntaf, ond gaethom ni gais tra roedd Lloyd bant hefyd.

“O’n ni wedi cadw digon o momentwm yn y 10 munud yna i greu digon i ni fod yn y gêm, ond yn y diwedd y diffyg disgyblaeth sydd wedi gadael ni lawr.

“Fel gêm gyfeillgar – er falle ddim mor gyfeillgar a hynny – bydde chi’n meddwl fod y dyfarnwr yn gadael mwy i fynd er mwyn cael mwy o lif yn y gêm. Ond fel wedes i, roedd diffyg disgyblaeth y ddau dîm yn golygu fod y momentwm yn araf.

“Bydd rhaid i ni edrych ar hynny a gweld lle allwn ni wella wrth i ni fynd ymlaen i Dde Affrica.

“O’n ni’n teimlo ein bod ni ar eu pennau nhw yn yr amddiffyn, a o nhw ddim yn berygl o gwbl. Roedd cais cynnar yn yr ail hanner wedi rhoi ni yn ôl yn y gêm, gyda’r sgôr yn 24 i 12.

“O’n ni’n dal yn meddwl ein bod ni’n gallu ennill y gêm ar y pryd ‘na. Oedd lot o amser i fynd, o’n ni yn y gêm ond yn y diwedd, camgymeriadau sydd wedi dod yn ôl atom ni.

“Ni wedi siarad trwy’r wythnos am gymryd ein cyfleuon a chwarae brand eang o rygbi.

“Ni’n mynd mas i Dde Affrica ac o’n ni moen rhoi’r pethau ni wedi gweithio arnyn nhw yn ymarfer i mewn i’r gêm yma.

“Weithiau, o’n ni’n edrych yn dda, a mae lot o bethau positif i’w cymryd o’r gêm. Ond y peth nawr yw ceisio cael mwy o hynny yn ein gêm ni, er mwyn creu cyfleuon a sgorio ceisiau.

“Oedd e’n neis i gael yr hit-out yma heno achos bydden ni wedi mynd tair wythnos heb gêm. Ni wedi cymryd lot mas o heno a ni eisiau mynd a fe mas i Dde Affrica.

“Mae’n sialens wahanol i chwarae yn erbyn timau mas fan ‘na, ond ni mas yna am bythefnos a mae’n rhaid i ni sticio gyda’n gilydd. Mae’n gallu bod yn le unig iawn, sdim lot o growd yna a mae’n rhaid i ni greu atmosffer ein hunain.

“Ni eisiau edrych ar beth aeth yn dda yn ystod y bloc o saith gêm cyntaf a cymryd hynny i mewn i’r pythefnos yn Ne Affrica.”

Yr ornest yn Ashton Gate oedd y gyntaf o ddwy gêm i Gaerdydd yn erbyn tîm Pat Lam, fydd yn ymweld â’r brifddinas ym mis Chwefror – y noson cyn i Gymru herio Lloegr yn y Chwe Gwlad.

Mae Harries yn teimlo ei bod hi’n gyffrous i wynebu un o glybiau Lloegr, sydd mor agos yn ddaearyddol, ond hefyd fod budd ymarferol i’r gyfres o gemau.

“Mae’n brofiad gwahanol achos so ni’n dod lan yn erbyn timau o Loegr yn aml iawn. Fel wedes i, does dim shwt beth a gêm gyfeillgar, yn enwedig pan chi’n chwarae yn erbyn Bryste sydd dros y bont.

“Mae’n gêm gyfleus i ni chwarae cyn bod ni’n mynd allan i Dde Affrica.

“Yn mis Chwefror, fe sydd wedi digwydd tro ‘ma, bydd cwpwl o wythnosau bant gyda ni, felly yn lle ein bod ni’n mynd pythefnos neu tair wythnos heb chwarae gêm, bydd e’n neis i gael gêm arall a croesawu Bryste i Gaerdydd.”

Latest news