Mae Gleision Caerdydd ar eu gorau pan yn chwarae’r steil o rygbi sydd yn rhoi cefnogwyr ar flaen eu seddi, meddai Josh Turnbull.
Seren y gêm, Jarrod Evans, oedd wrth y llyw wrth i Gleision Caerdydd drechu Scarlets yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn, gyda Willis Halaholo, Rey Lee-Lo a Tomos Williams yn croesi’r gwyngalch ar y noson.
Mae’r blaenwr yn credu fod gwaith y pac a’r hanneri wedi galluogi i’r cefnwyr serennu yng ngêm darbi olaf y Nadolig.
“Oedd hi’n gêm agored yn yr hanner cyntaf a dyna’r math o gêm ni eisiau chwarae,” meddai Turnbull.
“Roedd ugain munud cyntaf yn yr ail hanner ychydig bach yn anodd, gyda gormod o ciciau cosb yn mynd yn ein erbyn ni.
“Roedd hi’n teimlo yn debyg i wythnos diwethaf bryd hynny, a’r gêm yn dechrau llithro i ffwrdd.
“Ond, daethom ni’n ôl i mewn i’r gêm, pigo’r tempo yn ôl lan a dechrau chwarae ar y troed flaen.
“Chwarae teg i Jarrod, Tomos a Lloyd, pan mae nhw’n chwarae ar y troed flaen mae’n nhw’n gallu creu problemau i unrhyw dîm yn y gynghrair.
“Mae’n teimlo fod pwysau wedi dod i ffwrdd wythnos hyn ac yr oll oeddem ni wedi siarad amdano yn ystod yr wythnos oedd mynd mas a chwarae fel mae tîm Caerdydd yn gallu gwneud.
“Dyna beth wnaethom ni, yn enwedig yn yr hanner cyntaf.
“I ddod yn ôl o gêm fel yr un yn erbyn y Gweilch wythnos diwethaf, roedd hi am fod yn anodd.
“Tymor yma ni wedi gallu sefyll lan a cadw ein pennau lan oherwydd ni wedi chwarae yn dda fel tîm, ond dyw’r canlyniadau heb fynd o’n plaid ni.
“Yn erbyn y Gweilch, o’n ni ddim yn haeddu dim byd, ond wythnos hyn ni wedi newid popeth a roedd hi’n teimlo fel ein bod ni’n gallu mynd mas ‘na i chwarae.
“Gyda Tomos yn cymryd y taps cloi, roedd e’n cadw pawb ar flaenau eu traed ac oedd hi’n teimlo fod y Scarlets ddim yn disgwyl e.
“O’n ni’n adeiladu’r pwysau arnyn nhw ac o’n ni’n gallu gweld, wrth iddyn nhw weld cerdyn melyn a cerdyn coch, bod siawns gyda ni.”
Ar ôl cychwyn fel wythwr yn erbyn ei gyn-glwb, mae Turnbull nawr o fewn dau ymddangosiad o chwarae 200 o gemau yn y gynghrair.
Tra ei fod yn mwynhau chwarae yn erbyn y Scarlets, mae’n mynnu fod e’n mynd i mewn i pob gêm gyda’r un meddylfryd: “O’n ni’n sgwrsio gyda Glenn Delaney a Richard Kelly ar ôl y gêm ac o’n nhw dweud fy mod i’n tyfu pan mae gêm yn erbyn Scarlets yn dod!
“Ond i fi, fi’n ceisio gwneud yr un peth pob gêm a falle bod pawb yn sylwi mwy arno fe yn y gemau ‘ma oherwydd mod i’n chwarae yn erbyn fy hen dîm.
“Mae’n bleser bod mas ‘na gyda’r bois. Fel blaenwyr roedd cyfle gyda ni i fynd mas ‘na a sefyll lan i pac mawr y Scarlets.
“Pan ni’n creu y platfform i fois fel Tomos, Jarrod, Rey, Willis, Nipper - ni’n gallu creu problemau i pob tîm.”