Mae Josh Turnbull yn hyderus gall ei dîm ymateb yn bositif ar ôl colli’r gêm gartref cyntaf yn erbyn Caeredin dros y penwythnos.
Jaco van der Walt oedd ysbrydoliaeth tîm Richard Cockerill wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth o 19-11 ym Mharc yr Arfau.
Bydd tîm John Mulvihill yn teithio i’r Alban dros y penwythnos i wynebu Glasgow Warriors, sydd wedi colli eu dwy gêm agoriadol hyd yn hyn.
Mae Turnbull yn ymwybodol o safon tîm Dave Rennie, ond ar ôl buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Isuzu Southern Kings ar y penwythnos agoriadol, mae’n teimlo’n ffyddiog wrth deithio i Stadiwm Scotstoun.
“Mae Glasgow yn dîm anodd i wynebu ond ar ôl gweld beth wnaeth Scarlets yn erbyn nhw nos Wener, mae pob siawns gyda ni wrth fynd lan yna,” meddai’r blaenwr.
“Ni wedi ennill oddi cartref yn barod, ond mae’n rhaid i ni rhoi cwpwl o bethau yn iawn o’r gêm yn erbyn Caeredin yn gyntaf.”
Mae’r chwaraewr rhyngwladol, sydd wedi ennill 10 o gapiau dros Gymru, yn dweud fod y garfan yn hynod siomedig gyda’r canlyniad a’r perfformiad yn erbyn tîm prifddinas Yr Alban, yn enwedig gan eu bod nhw’n ymfalchio yn eu gallu i guro gemau cartref.
“Ni’n siomedig. Siomedig gyda’r perfformiad, siomedig gyda’r canlyniad,” ychwanegodd Turnbull.
“O ni’n methu rhoi’r pwysau arnyn nhw i ddod mas o hanner nhw gyda digon o bwyntiau.
“Tro diwethaf i ni chwarae yma oedd yn erbyn y Scarlets, lle oeddem ni wedi rhoi 38 pwynt arnyn nhw erbyn hanner amser.
“Ni eisiau gwneud hi’n anodd i timau eraill ddod yma i ennill a ni ddim wedi gwneud hynny yn erbyn Caeredin.
“Roedd hi’n cais dda i Owen Lane yn syth o ‘set-piece’ ond oeddem ni wedi ffili gwneud hynny eto yn y gêm.
“Oeddem ni’n colli’r bêl yn rhy aml, a rhoi’r meddiant yn ôl i Caeredin.”