Dilynwch ranbarthau Cymru gyda darpariad estynedig S4C o’r Guinness PRO14

by

in

Ar drothwy tymor 2019/20 y Guinness PRO14, bydd cefnogwyr o’r pedwar rhanbarth yn gallu dilyn eu timoedd drwy’r ymgyrch gyfan gyda gemau byw a darllediadau gohiriedig ar S4C.

Bydd tîm Clwb Rygbi yn dychwelyd i’r sgrin y penwythnos hwn i ddarlledu tair gêm Guinness PRO14. Bydd darllediad byw o’r gêm rhwng Scarlets a Connacht ar nos Sadwrn 28 Medi am 5.00pm, yn ogystal â darllediadau gohiriedig o Ulster v Gweilch, am 3.10pm ar ddydd Sul 29 Medi, a Southern Kings v Gleision Caerdydd, am 10pm ar nos Lun 30 Medi.

Bydd gêm cartref cyntaf tîm John Mulvihill, wrth iddyn nhw groesawu Caeredin i’r brifddinas, yn cael ei darlledu yn fyw ar Y Clwb Rygbi.

Bydd Clwb Rygbi yn dangos 17 gêm byw ac yn darlledu 40 gêm ychwanegol y tymor hwn. Pe bai rhanbarth o Gymru yn symud ymlaen i’r rownd derfynol, a gynhelir yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mîs Mehefin 2020, bydd S4C yno i ddangos y gêm yn fyw.

Bydd gemau yn cael eu darlledu’n fyw ar y teledu ac ar-lein trwy S4C Clic, sy’n rhoi’r cyfle i wylwyr ddal i fyny am 35 diwrnod wedi’r darllediad.

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Mae Rygbi ar feddwl pawb dros yr Hydref ac S4C yw’r unig sianel deledu rhad-ac-am-ddim fydd yn dangos gemau byw rhanbarthau Cymru yn rheolaidd. Pob lwc i’r pedwar rhanbarth a gobeithio byddwn ni’n eich gweld chi yng Nghaerdydd mis Mehefin nesaf.”

Meddai Martyn Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Mae S4C yn bartner hynod o werthfawr i rygbi yng Nghymru ac mae’n rhaid canmol safon eu darpariaeth o gemau’r rhanbarthau yn y Guinness PRO14.

“Mae S4C yn ddarlledwr sy’n cefnogi rygbi yng Nghymru yn fawr iawn drwy ddod a’r gemau gwych hyn yn syth i dai cefnogwyr rygbi ledled y wlad, a bydded i hynny barhau.”

Sut i wylio S4C:

Mae S4C ar gael ar: Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru
Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae S4C HD ar gael i wylwyr Sky a Freesat yng Nghymru ac ar draws y DU.
Mae S4C hefyd ar gael ar YouView, tvcatchup.com a tvplayer.com.

Yn fyw ar-lein ac ar alw ar S4C Clic a thrwy ddefnyddio ap S4C Clic ar iOS ac Android.

Mae pedwar gêm byw Gleision Caerdydd wedi eu hamserlennu, ond mi fydd darllediadau gohiriedig o nifer sylweddol o’u gemau hefyd i’w weld yn ystod y tymor.

Rownd

Gêm

Dyddiad

Amser Darlledu

2

Gleision Caerdydd v Caeredin

Sadwrn 05.10.19

17.00

BYW

4

Ulster v Gleision Caerdydd

Gwener 25.10.19

19.25

BYW

6

Gleision Caerdydd v Cheetahs

Sadwrn 09.11.19

17.00

BYW

9

Gleision Caerdydd v Dreigiau

Iau 26.12.19

14.45

BYW

Latest news