Mae Seb Davies yn edrych ymlaen at ornest danllyd wrth i Gaerdydd herio’r Gweilch ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig nos Sadwrn.
Mae’r ddau dîm yn mynd i mewn i’r gêm gyda buddugoliaeth ar y penwythnos agoriadol.
Mae’r clo rhyngwladol yn ymwybodol o’r her gorfforol sydd yn wynebu’r pac yn Abertawe, ond mae’n gobeithio y bydd gwaith caled yr ymarfer dros yr Haf yn talu ei ffordd unwaith eto.
“Ni’n cael wythnos da o ymarfer ar y foment a nawr ni’n edrych ymlaen at y gêm dros y penwythnos,” meddai’r cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf.
“Mae pob gem yn bwysig iawn, ond mae dipyn bach mwy o dân yn y gemau darbi. Felly ni’n edrych ymlaen i fynd mas a chwarae dydd Sadwrn.
“Mae gan y Gweilch bac mawr a lot o fois tal a thrwm. Felly y llinell a’r sgrym fydd y sialens mwyaf i ni’r blaenwyr.
“Mae ‘na llawer o gefnwyr da yno hefyd, sydd yn hoffi cicio llawer, felly bydd y bois yn y cefn angen bod ar dân hefyd.
“Ni wedi gwneud lot o ffitrwydd dros y deufis diwethaf, a tuag at diwedd y gêm yn erbyn Connacht roedd hynny’n dod i mewn i’r chwarae.
“O’n ni wedi llwyddo i gario ymlaen i redeg a sgorio cwpwl o geisiau neis.”