Darganfod cysondeb yn allweddol i Gaerdydd – Williams

by

in

Mae Lloyd Williams yn credu fod cysondeb yn allweddol i Gaerdydd wrth i dîm Dai Young edrych i orffen y tymor ar nodyn uchel.

Mae clwb y brifddinas yn teithio i Gasnewydd i wynebu’r Dreigiau heno cyn i’r tymor ddod i ben wythnos nesaf gyda gornest yn erbyn Benetton.

Mae’r mewnwr yn cyfaddef fod ei dîm yn siomedig gyda’r tymor ar y cyfan ond mae’n benderfynol i orffen yn gryf.

“Byddai hi’n ffordd neis i orffen y tymor gyda tri canlyniad da ond ni’n ymwybodol o’r sialens nos Wener,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.

“Fel carfan a rhanbarth, mae hi’n bwysig i ni ein bod ni’n gorffen ar nodyn uchel.

“Mae’n siomedig i ni ein bod ni’n gorffen yn isel yn y tabl. Nid dyna lle ni fel chwaraewyr, hyfforddwyr a rhanbarth eisiau bod.

“Mae ambell i beth wedi bod mas o’n gafael, ond mae timau eraill wedi bod yn yr un safle.

“Mae hi wedi bod yn dymor rhyfedd iawn gyda’r pandemic ond mae’n bwysig ein bod ni’n gorffen mor dda a phosib cyn symud ymlaen i tymor nesaf.

“Ni heb fod yn ddigon cyson dros y tymor. Ar adegau ni’n beryglus ac yn anodd i chwarae yn erbyn. Ond ni hefyd wedi perfformio yn wael a ddim yn gwneud yr hyn ni wedi paratoi yn ystod yr wythnos.

“Mae’n rhwystredig iawn a mae’n bwysig ein bod ni, fel tîm, yn gwella ac yn cryfhau.”

Mae Williams wedi serennu i’w dîm dros yr wythnosau diwethaf, gyda tair cais yn ei dri gêm diwethaf.

Ond mae’n mynnu nad yw’n meddwl am daith Cymru i Dde Affrica dros yr Haf, gan ganolbwyntio ar un wythnos ar y tro.

Ychwanegai Williams: “Fi’n ceisio chwarae mor dda a phosib pob wythnos a fi ddim yn meddwl am yr Haf.

“Mae hi wedi bod yn dymor a rhwystredig, felly fi’n edrych ymlaen am ychydig o amser bant.

“Os bydde galwad i’r tîm cenedlaethol yn digwydd byddai’n grêt ond os ddim, byddai’n mwynhau fy amser i ffwrdd o rygbi oherwydd mae hi wedi bod yn dymor hir ac anodd.”

Latest news