Bydd cysondeb yn allweddol os yw Gleision Caerdydd am gystadlu yn ystod ail hanner y tymor, meddai Lloyd Williams.
Mae gobeithion tîm John Mulvihill o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn y Cwpan Her Ewrop yn parhau. Ond, ar ôl colli yn erbyn Leicester Tigers dydd Sul, mae eu tynged yn nwylo timau eraill y gystadleuaeth.
Bydd rhaid i’r Gleision sicrhau y pwyntiau llawn yn erbyn Calvisano dydd Sadwrn, gan obeithio fod canlyniadau eraill yn mynd o’u plaid ar benwythnos olaf y grwpiau.
Mae Williams yn mynnu fod rhaid i’w dîm symud ymlaen o’r gêm yn erbyn y Tigers, wrth iddyn nhw edrych i adeiladu momentwm a dringo’r tabl yn y Guinness PRO14.
“Hyd yn oed os ni yn ffeindio ffordd i fynd i’r rownd nesaf, nid dyma’r ffordd oeddem ni eisiau mynd trwyddo,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.
“Ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen. Mae gêm gartref gyda ni yn erbyn Calvisano, ac i fod yn bositif, fe roedd lot o bethau da yn erbyn Leicester.
“Os ni’n gallu gorffen y pencampwriaeth yma gyda perfformiad da bydd hynny’n grêt cyn i ni fynd yn ôl i mewn i’r gynghrair.
“Mae lot o rygbi i chwarae tymor yma, ond mae am fod yn galed os ni am fynd drwyddo i’r rownd nesaf yn Ewrop.
“Mae siawns i ni gyrraedd y play-offs yn y gynghrair a mae’n bwysig i ni edrych ymlaen at hynny pan mae’r grwpiau Ewrop yn dod i ben.
“Ni wedi bod yn chwarae rygbi da dros y misoedd diwethaf felly mae hi’n bwysig i ni barhau i berfformio yn dda pob wythnos a gobeithio bydd y canlyniadau yn dilyn."
Roedd gan y Gleision fantais o 14-10 yn ystod hanner amser yn Welford Road, ar ôl i Josh Adams a Ben Thomas groesi'r llinell gais yn yr hanner cyntaf.
Ond, fe wnaeth Leicester reoli'r ail hanner, gyda maswr Lloegr, George Ford, yn cael ei enwi yn seren y gêm.
Camgymeriadau oedd prif broblem Gleision Caerdydd meddai Williams, er gwaethaf y perfformiad addawol yn ystod y 40 agoriadol.
“Oedde ni’n methu cael meddiant yn ystod yr ail hanner,” meddai Williams.
“Yn yr hanner cyntaf, cawsom ni lot o’r bêl, a oeddem ni’n ceisio rhedeg nhw o gwmpas lot. Roedd hynny’n gweithio i ni oherwydd dyna’r math o rygbi ni eisiau chwarae.
“Yn yr ail hanner, roeddem ni’n methu yn y llinellau a methu ennill meddiant o’r kick offs.
“Mae camgymeriadau fel yna yn y safleoedd yna o’r cae, yn erbyn tîm fel Leicester sydd yn hoffi arafu popeth i lawr, yn mynd i effeithio sgôr y gêm.
“Wnaethon ni greu lot yn yr hanner cyntaf gyda’r bêl, ond heb y meddiant mae’n nhw’n dîm ychydig bach yn rhy gorfforol i ni.
“Ni ddim eisiau bod yn amddiffyn am 40 munud, ond dyna ddigwyddodd yn yr ail hanner.”