Bydd Tomos Williams a Jarrod Evans yn bartneriaid ar y llwyfan rhyngwladol wrth i Gymru wynebu’r Barbarians yn Stadiwm Principality dydd Sadwrn.
Mae’r deuawd Gleision Caerdydd yn ymuno â pedwar o’u cyd-chwaraewyr rhanbarthol wrth i Wayne Pivac enwi ei garfan cyntaf fel prif hyfforddwr Cymru.
Mae prif sgoriwr Cwpan y Byd, Josh Adams, wedi ei enwi ar yr asgell, tra fod Dillon Lewis yn gwisgo’r crys rhif tri.
Bydd Seb Davies yn dychwelyd i’r llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf ers Tachwedd 2018, a mae e wedi cael ei enwi ar y fainc gyda Owen Lane, wnaeth ennill ei gap cyntaf dros yr Haf.
Ni fydd y chwaraewyr yn derbyn capiau am chwarae y gêm y tro hwn, ond mi fydd asgellwr y Scarlets, Johnny McNicholl, yn ymddangos yn y crys coch am y tro cyntaf.
Cymru v Barbarians (Sadwrn 30 Tachwedd, Stadiwm Principality, 14.45pm):
1. Wyn Jones (Scarlets)
2. Ken Owens (Scarlets)
3. Dillon Lewis (Gleision Caerdydd)
4. Jake Ball (Scarlets)
5. Adam Beard (Gweilch)
6. Aaron Shingler (Scarlets)
7. Justin Tipuric (Capt) (Gweilch)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau)
9. Tomos Williams (Gleision Caerdydd)
10. Jarrod Evans (Gleision Caerdydd)
11. Josh Adams (Gleision Caerdydd)
12. Hadleigh Parkes (Scarlets)
13. Owen Watkin (Gweilch)
14. Johnny McNicholl (Scarlets)
15. Leigh Halfpenny (Scarlets)
Replacements:
16. Elliot Dee (Dreigiau)
17. Rob Evans (Scarlets)
18. Leon Brown (Dreigiau)
19. Seb Davies (Gleision Caerdydd)
20. Ollie Griffiths (Dreigiau)
21. Gareth Davies (Scarlets)
22. Sam Davies (Dreigiau)
23. Owen Lane (Gleision Caerdydd)