Mae carfan Caerdydd yn barod ar gyfer dechrau’r tymor cystadleuol, yn ôl Lloyd Williams, yn dilyn y fuddugoliaeth dros Bath nos Wener.
Fe wnaeth y mewnwr rhyngwladol groesi am gais ar ei ymddangosiad cyntaf o’r tymor o flaen torf Parc yr Arfau, wrth i dîm Dai Young drechu’r ymwelwyr o 25 pwynt i 14.
Mae Williams yn cyfaddef fod lle i wella ond mae’n hyderus fod ei dîm ar y trywydd cywir.
“Ni’n bles i ennill, ond efallai nid dyna’r perfformiad o’n ni fel carfan moen,” meddai’r mewnwr.
“Ond ni dal yn gallu bod yn bles i ennill y gêm yn erbyn tîm cryf fel Bath.
“Bydd y perfformiadau dros y ddwy gêm yn rhoi hwb i ni yn erbyn Connacht.
“Oedd hi’n bwysig i ennill ond yn bennaf ni’n bles fod pawb wedi cael cyfle i chwarae dros y ddwy gêm.
“Mae pawb yn edrych ymlaen i ddechrau’r tymor nawr.
“Mae pawb yn edrych ymlaen i’r gêm gyntaf nawr. Mae hi wedi bod yn haf hir ac anodd, fel sydd i ddisgwyl.
“Mae Connacht yn dîm da ond ni heb sôn amdanyn nhw lot eto, ond mae pawb yn camu yn y ffordd cywir i gael y canlyniad.”
Partner Williams yn y crys rhif 10 nos Wener oedd Rhys Priestland, wnaeth serenu yn ei gêm cartref cyntaf ers symud i’r brifddinas dros yr Haf.
Mae’r mewnwr yn gyffrous i weld Priestland yn ychwanegu i ddyfnder y crys rhif 10 ym Mharc yr Arfau.
“Mae hi’n braf iawn i gael Rhys yn y clwb a mae pawb wedi gweld dros ei yrfa pa mor dda mae e wedi bod,” ychwanegai’r seren rhyngwladol.
“Oedd e yn y crys rhif 10 a mae’r bechgyn i gyd yn mwynhau chwarae gyda e, fel mae nhw gyda Jarrod a Jason.
“Ni’n lwcus i gael lot o talent yn safle’r maswr ar hyn o bryd a mae pawb yn gallu gweld heno pa mor bwysig yw e i’r tîm.
“Mae gan Rhys ychydig bach o bopeth. Mae’n hoffi rhedeg gyda’r bêl ond hefyd gyda gêm tiriogaeth cryf iawn.
“Mae’n braf i’w gael e fan hyn yn y clwb. Mae e wedi gweithio yn hynod o galed dros yr haf a gallai siarad ar rhan pawb yn y clwb fod hi’n braf cael e fan hyn.”