Caerdydd yn benderfynol o orffen ar nodyn uchel ym Mharc yr Arfau – Williams

by

in

Mae Lloyd Williams yn dweud fod chwaraewyr Caerdydd yn benderfynol o orffen eu tymor gartref ar nodyn uchel yn erbyn Zebre.

Ar ôl colli yn erbyn Munster nos Wener, mae tîm Dai Young nawr yn paratoi ar gyfer y gêm olaf ym Mharc yr Arfau.

Croesodd y mewnwr am drydydd cais ei dîm yng Nghorc, ond ni oedd ei ymdrechion yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gaerdydd.

Ac er fod agweddau positif i’w perfformiad yn Iwerddon roedd Williams yn credu fod momentwm yr ail hanner wedi gadael gormod o waith i’w dîm frwydro yn ôl i’r ornest.

“Wythnos nesaf yw’r gêm olaf gartref i ni, yn erbyn Zebre, felly mae’n bwysig ein bod ni’n perfformio,” meddai Williams.

“Os gallwn ni berfformio, fi’n siwr y bydd y canlyniad yn iawn ar y dydd.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cael y perfformiad cywir i ni fel chwaraewyr ac i’r cefnogwyr.

“Fi’n bles ein bod ni wedi chwarae gêm o rygbi heddiw a wedi taflu ergyd.

“Am y rhan fwyaf o’r gêm, o’n ni wedi ymdopi gyda’r pwysau a rhoi pwysau ein hunain ar Munster.

“Ond fe aeth ychydig o’r momentwm i ffwrdd yn yr ail hanner a dyna oedd y gwahaniaeth heddiw.

“Roedd y 10 munud ar ôl y trydydd cais yn bwysig i ni. Byddai pwyntiau neu tiriogaeth wedi bod yn gam yn y cyfeiriad cywir.

“Ond yn anffodus, fe wnaeth Munster sgorio yn eithaf sydyn ar ôl hynny a fe aeth y gêm o’n gafael ni.

“O’n ni’n rhedeg ar ôl y gêm erbyn hynny ac yn anffodus wedi methu rhoi mwy o bwysau ar Munster.

Bu rhaid i’r cefnwr Hallam Amos adael y maes gydag anaf yn yr hanner cyntaf, ar ôl serennu yn yr hanner awr agoriadol.

Gyda’r seren rhyngwladol yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, mae Williams yn gobeithio y bydd cyfle i Amos wisgo’r crys du a glas unwaith eto.

“Ni ddim yn gwybod eto pa mor ddifrifol mae’r anaf i Hallam. Fel clwb, o’n ni’n gobeithio bydde fe’n chwarae eto tymor yma,” meddai’r mewnwr.

“Bydd hi’n drist os mai dyna yw’r gêm olaf i Hallam. Fi wedi mwynhau chwarae a gweithio gyda fe.

“Mae pawb yn y tîm yn hoffi Hallam a’i gwmni ac os mai dyna yw’r gêm olaf, mae’n ffordd drist i orffen.

“Yn enwedig wrth edrych ar y ffordd wnaeth e chwarae. Oedd e’n wych. Fe oedd yn creu y ceisiau i ni.

“Mae’n foi da, yn chwaraewr gwych ac, os mai dyna yw y gêm olaf, bydd pawb yn ei golli e.”

Latest news