Boyde yn setlo i fywyd yn y brifddinas

by

in

Mae Will Boyde, un o sêr newydd Gleision Caerdydd, wedi setlo i fywyd ym mhrifddinas Cymru, ar ôl symud o’r Scarlets dros yr Haf.

Mae Boyde, sydd yn gallu chwarae yn unrhyw safle yn y rheng-ôl, wedi bod yn ymarfer gyda’i ranbarth newydd ers saith wythnos, a bydd yn cystadlu gyda chwaraewyr fel Ellis Jenkins, Nick Williams, Josh Turnbull, Josh Navidi, Olly Robinson a Shane Lewis-Hughes a le yn y nhîm John Mulvihill.

Roedd y chwaraewr rheng-ôl yn aelod o garfan y Scarlets wnaeth gipio’r Guinness PRO14 yn 2016/17, a mae ganddo atgofion melys o’i gyfnod gyda’r rhanbarth yn Llanelli. Ond mae’n cyrraedd y Gleision gydag awch i ddod a tlysau yn ôl i Barc yr Arfau.

“Roedd hi ychydig yn wyllt tuag at diwedd y tymor, pan roedd pethe’n dechrau symud a cafodd ei gadarnhau mod i’n gadael y clwb,” meddai Boyde.

“Ond rwy’n fwy nag hapus i fod yma, yn enwedig ers i mi ddod i ymarfer yn y cyfleusterau newydd ym Mharc yr Arfau. Rwy’n mwynhau yn fawr ac yn mwynhau’r ddinas ei hun hefyd.

“Mae’r bois wedi bod yn groesawgar iawn, a rwyf wedi symud i Gaerdydd, sydd wedi gwneud popeth yn haws a rwyf yn ei chanol hi gyda’r bois.

“Roedd ‘na nifer o uchafbwyntiau yn ystod fy amser gyda’r Scarlets. Efallai mod i wedi gadael ar ychydig o nodyn wael, ond roedd popeth yn wych yno, yn enwedig wrth i ni ennill y gynghrair, cyrraedd ffeinal arall a chyrraed rownd gyn-derfynol Ewrop.

“Ond gobeithio, gyda’r garfan sydd yn fan hyn, y gallwn ni fynd ymlaen i gystadlu am dlysau gyda’r Gleision dros y cwpwl o flynyddoedd nesaf. Dyna yw’r gôl. Chi ddim yn ymuno â clwb i fod ar y droed-ôl ac aros ar yr un safon.

“Gobeithio ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle allwn ni gamu ymlaen fel rhanbarth a chael cyfnod llwyddiannus yng nghrys y Gleision.”

Roedd Boyde yn siarad ar bennod diweddaraf ‘Cardiff Blues Uncovered’ sydd yn rhoi cip-olwg ar fywyd tu ôl i lenni y rhanbarth, wrth iddyn nhw baratoi am y tymor newydd.

Mae’r chwaraewr 24-mlwydd-oed yn cyfaddef fod y ddwy gêm yn erbyn Gleision Caerdydd llynedd – lle roedd tîm John Mulvihill yn fuddugol – wedi ei berswadio i ymuno â’r rhanbarth, a mae’n edrych ymlaen i ddatblygu ei gêm bersonol, yn enwedig yn ardal y dacl.

Ychwanegodd Boyde: “Llynedd fe wnaeth y Gleision ein trechu ni cwpwl o weithiau, a cefais gyfle i weld y brand o rygbi mae’n nhw anelu i chwarae. Mae’n nhw’n canolbwyntio ar ymosod, a mae ganddyn nhw rhywfaint o dân yn eu boliau ymysg y blaenwyr, yn enwedig yn yr amddiffyn.

“Mae ganddyn nhw hunaniaeth, a dwi’n teimlo gallwn i ffitio i fewn gyda hynny. Ar ôl siarad gyda’r hyfforddwyr, daeth y penderfyniad yn haws i symud i Gaerdydd, a mae hi wedi bod yn benderfyniad cywir hyd yn hun.

“Gobeithio gallai ddatblygu sgiliau fy hun drwy chwarae ac ymarfer gyda hyfforddwyr gwahanol.

“Mae safon y rheng-ôl yn uchel iawn, a mae’r gwaith ar y llawr o ran dwyn y meddiant yn rhywbeth sydd wedi gwanhau yn fy ngêm dros y blynyddoedd diwethaf.

“Ond ar ôl ymuno ac ymarfer, mae hi’n amlwg fod yna bwyslais ar ardal y dacl, a rwy’n edrych ymlaen i ddatblygu hynny yn ystod fy amser yma.

“Mae ‘na nifer o chwaraewyr gwych yma, a bydd hi’n gystadleuol am le yn y tîm pan fydd y tymor newydd yn cychwyn.

“Gobeithio gall y Gleision wneud y dwbwl dros y Scarlets unwaith eto eleni! Ond o ddifrif, mae’n gret i’w cael nhw yn yr un grwp ac i gael chwarae yn eu herbyn nhw ddwywaith.

“Mae ambell i gêm yn ystod hanner cyntaf y tymor y byddwn ni’n targedu, yn enwedig gartref, a rwyf yn edrych ymlaen i chwarae o flaen y dorf ym Mharc yr Arfau, yn enwedig yn erbyn y rhanbarthau eraill.”

Latest news