Mae Dillon Lewis yn credu gall Gleision Caerdydd fod yn bositif, er gwaethaf y canlyniad yn erbyn Munster nos Wener.
Sgoriodd tîm John Mulvihill dri cais yng Nghorc, gyda Tomos Williams, Aled Summerhill a Rey Lee-Lo yn croesi’r gwyn-galch, gan arddangos gallu’r Gleision i chwarae rygbi agored ac ymosodol.
Roedd Lewis yn canmol gwaith yr olwyr yn y gêm, ac yn enwedig yr asgellwr, Summerhill, oedd yn dathlu 50 o gemau i’w ranbarth.
“Ni’n gallu cymryd llawer o bethau positif o’r gêm yn erbyn Munster,” meddai’r prop rhyngwladol.
“Ti’n gwybod beth mae Nipper [Matthew Morgan] yn gallu gwneud a pa mor beryg yw e, a mae Aled Summerhill i weld yn sgorio cais ym mhob gêm ar y funud.
“Mae’n wych i weld e’n chwarae’n dda, a mae’n rhywun fi wedi dod drwy’r system gyda.
“Am 60 munud, roeddem ni yn y gêm yna, ond roedd gormod o giciau cosb yn ein erbyn, cicio’r bêl i ffwrdd a dim yn cymryd ein cyfleuon.
“Ni’n gwybod fod Munster am gael tîm cryf o rhif un i 23 ond fi’n meddwl bod ni wedi bod yn anlwcus i beidio cael pwynt bonws. Ond fe wnaeth fainc Munster y gwahaniaeth yn y diwedd.
“Mae’n rhaid i ni ddysgu i chwarae rygbi am yr 80 munud cyfan, a dyna pam ni heb ennill y gêm.”
Dim ond dwy gêm sydd yn weddill yn y ras am y tri uchaf, gyda Gleision Caerdydd yn paratoi i wynebu Connacht a’r Gweilch cyn diwedd y tymor.
Mae’r prop yn dweud fod y cyfle i gystadlu tan y gêm olaf yn rhoi cymhelliant i’w dîm.
Ychwanegodd Lewis: “Ni’n chwarae Connacht wythnos nesaf a ni’n gwybod bod hi’n gêm enfawr os ni eisiau parhau i gystadlu tan diwedd y tymor.
“Mae pob tîm yn y gystadleuaeth eisiau chwarae yn y gemau cystadleuol, a fel tîm ni’n canolbwyntio ar wneud hynny hefyd.
“Mae’n enfawr i ni barhau i chwarae fel ni wedi gwneud yn yr wythnosau diwethaf a cael y canlyniad yn Galway.”