Er iddyn nhw gipio pwyntiau llawn ar benwythnos agoriadol y Chwe Gwlad, mae gan Gymru le i wella cyn eu gornest yn erbyn Iwerddon, meddai Josh Adams.
Roedd hi’n gychwyn perffaith i dîm Wayne Pivac wrth iddyn nhw groesi am bum cais er mwyn trechu Yr Eidal o 42-0.
Daeth tri o’r ceisiau hynny gan Adams, sydd wedi parhau i ddisgleirio ar y llwyfan rhanbarthol a rhyngwladol ar ôl seilio ei le fel prif sgoriwr ceisiau yng Nghwpan y Byd.
Y sialens nesaf i’r Cymry bydd taith i Ddulyn i wynebu tîm Andy Farrell, wnaeth gipio buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban penwythnos diwethaf.
Mae Adams yn credu gall ei dîm fod yn hyderus yn dilyn y fuddugoliaeth dros Yr Eidal, ond mae’n mynnu fod rhaid cadw eu traed ar y ddaear.
“Y ffordd ni moen chwarae yw gêm agored a ni wedi llwyddo i gael y bêl yn y gwagle mas fan ‘na,” meddai asgellwr Gleision Caerdydd.
“Fe wnaeth y bois yn dda ond mae lot i ni weithio arno ar gyfer wythons nesaf.
“Ond ni’n hapus gyda’r ffordd ni wedi dechrau’r pencampwriaeth.
“Weithiau pan oedd gyda ni’r bêl, roeddem ni yn araf yn mynd i mewn i’r siap ni moen.
“Gallen ni hefyd fod yn well yn ardal y dacl oherwydd llwyddodd Yr Eidal i ddwyn y bêl cwpwl o weithiau.
“Felly mae hynny yn rhai o’r pethau allem ni weithio arno.”