Mae Josh Adams yn cyfaddef ei fod wrth ei fodd ar ôl sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd.
Chwaraeodd yr asgellwr ran allweddol wrth i Gymru groesi am chwe cais yn erbyn Georgia yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth.
Fe wnaeth Adams argraff wrth ymosod, gan dorri’r llinell ar bump achlysur, gan sgorio cais a chreu sgôr i Justin Tipuric.
Roedd Adams yn hapus gyda bygythiad ymosodol ei dîm o’r darnau gosod, ond mae’n mynnu eu bod yn canolbwyntio ar yr ornest yn erbyn Awstralia yn Tokyo ymhen chwe diwrnod.
“Roedd hi’n neis i cael cais cyntaf yng Nghwpan y Byd,” dywedodd Adams wrth S4C.
“Yn yr hanner cyntaf, roedd ychydig o ein symudiadau o’r darnau gosod wedi torri’r llinell a roedd yr un symudiad wedi gweithio ar gyfer y cais i Tips [Justin Tipuric] ac i fy nghais i.
“Ni’n hapus, wrth gwrs, i gael pwynt bonws, sydd yn dda i ni
“Ni tamed bach yn siomedig i ildio dau cais oherwydd ein ffocws ni yn ystod hanner amser oedd rhwystro nhw rhag sgorio o unrhyw gais.
“Mae’n rhywbeth i ni adeiladu arno wrth fynd i mewn i’r gêm yn erbyn Awstralia mewn chwech diwrnod.”