Achlysur i’w gofio i Macauley Cook a’i deulu

by

in

Roedd y canlyniad yn erbyn Munster nos Wener diwethaf yn ddiweddglo perffaith i noson arbennig i Macauley Cook a’i deulu.

Daeth y blaenwr ymlaen o’r fainc i ddathlu 150 o ymddangosiadau dros Gleision Caerdydd, gyda’r capten Ellis Jenkins hefyd yn dathlu canrif o gapiau dros ei ranbarth.

Cafodd y ddau gyfle i ddathlu gyda’u teuluoedd wedi’r chwiban olaf, ac, yn ôl Cook, roedd hi’n ystafell newid hapus yn dilyn buddugoliaeth gyda phwynt bonws.

“Roeddwn i’n prowd iawn i ddod o’r fainc i wneud hi’n 150 o ymddangosiadau i’r rhanbarth, a roedd fy rhieni yno hefyd yn gwylio,” meddai Cook.

“Roedd hi’n foment ac yn gêm arbennig i fi a byddai wastad yn gallu cofio hi oherwydd y canlyniad ar y diwedd.

“Roedd pawb yn anhygoel o hapus ar ddiwedd y gêm i fod yn onest.

“Roedd yna cwpwl o wythnosau caled iawn cyn y gêm yn erbyn Munster, ond ni’n falch iawn o’r bois am lwyddo i ddal ati a gweithio’n galed wrth ymarfer yn ystod yr wythnos.

“Roedd pawb yn onest iawn gyda’n gilydd yn arwain at y gêm, ac yn siarad am beth oedd yn mynd yn anghywir yn y gemau cyntaf.

“Ni wedi troi lan fel tîm ar y dydd Gwener, rhoi perfformiad gwych mewn a nid yn unig curo Munster, ond curo nhw’n braf.

“Roedd ymosod ni’n ardderchog, yn taflu’r bêl o gwmpas, a ddim yn colli’r meddiant, sef y peth pwysicaf yn y gêm.

“Yn y tair gêm cyntaf, roedd ymosod ni’n edrych yn dda ond roedden ni’n colli’r bêl ac yn gadael i nhw chwarae o hynny, ac yn sgorio.

“Yn erbyn Munster, roedd y tîm yn edrych ar ôl y bêl yn well ac roedd hynny’n dangos yn y canlyniad.”

Ond mae Cook yn mynnu fod rhaid i’w dîm ganolbwynio ar y dasg nesaf, wrth i’r Gleision baratoi i groesawu’r Cheetahs i’r brifddinas nos Wener.

Dywedodd Cook: “Ni’n gwybod bod ‘da ni cwpwl o gemau caled o’n blaenau ni, felly ni methu bod yn rhy hapus ar ôl Munster.

“Ar ôl penwythnos bant yn ymlacio, ni wedi bod mewn yn ymarfer yn galed trwy’r wythnos ac ni’n edrych ymlaen i wynebu’r Cheetahs.

“Mae hi wastad yn neis i ennill am y tro cyntaf mewn tymor, yn enwedig ar ôl colli’r tair gêm cyntaf reit ar y diwedd.

“Roedd hi’n dechrau troi yn arferiad a rhywbeth o ni’n fel tîm eisiau newid. Ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y gêm nesaf ac adeiladu ar y perfformiad yna.”

Latest news