Bydd cyrraedd 50 o ymddangosiadau dros Gleision Caerdydd yn anrhydedd i’r prop rhyngwladol, Dillon Lewis.
Chwaraeodd Lewis ei gêm gyntaf dros y rhanbarth yn erbyn Wasps yn 2015, a mae wedi sefydlu ei le fel chwaraewr pwysig yng ngharfan y Gleision a Chymru eleni.
Mae disgwyl i’r prop gyrraedd ei garreg filltir diweddaraf wrth i’w dîm wynebu’r Gweilch ar Ddydd y Farn yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.
Mae Lewis, sydd wedi ennill 12 o gapiau dros Gymru, yn disgwyl achlysur arbennig yn y stadiwm cenedlaethol, wrth i’r ddau dîm frwydro am y gemau ail-gyfle ar gyfer lle yng Nghwpan y Pencampwyr Heineken tymor nesaf.
Dywedodd Lewis: “Mae hi wedi cymryd rhyw pum mlynedd i gyrraedd y 50, ond fi’n hapus iawn i wneud hynny ar Ddydd y Farn.
“Mae’r gêm yma yn un mae pob chwaraewr eisiau bod yn rhan ohono pob tymor, a bydd hi’n arbennig i gyrraedd y 50 yn Stadiwm y Principality.
“Fi wedi dod o’r academi a llwyddo i wneud hi i’r tîm cyntaf, ac yn y dyddiau cynnar chi methu breuddwydio chwarae gymaint o gemau i’r rhanbarth.
“Mae’r bois yn gyffrous am pob gêm ddarbi, a rhain yw’r gemau mae pawb moen cymryd rhan.
“Mae’r Gweilch wedi curo ni’n barod tymor yma, felly mae cyfle gyda ni i roi un yn ôl iddyn nhw.
“Dyw hi byth yn hawdd i chwarae o flaen torf o dros 50,000. Mae’n ddiwrnod mawr a mae’r bois i gyd yn gwybod hynny.
“Ni wedi siarad am pwysigrwydd y gêm fel carfan, a gyda gymaint i chwarae amdano bydd hi’n enfawr i ni fel tîm a ni’n gyffrous.
“Mae’n dda i chwarae am rhywbeth tuag at diwedd y tymor, a ni gyd moen chwarae yn Cwpan y Pencampwyr eto blwyddyn nesaf.
“Nid gêm arferol yn y stadiwm yw hon, ond mae rhywbeth ar y llinell felly bydd hi’n gyffrous a gawn ni weld beth fydd yn digwydd.”