Mae Josh Turnbull yn ysu am fwy o gerrig milltir yn ei yrfa, wrth iddo baratoi i chwarae ei 200fed gêm yn y Guinness PRO14 pan fydd Gleision Caerdydd yn herio’r Scarlets nos Wener (CG 8.00yh).
Y blaenwr fydd y pumed chwaraewr i gyflawni’r gamp, gan ymuno â chlwb sydd yn cynnwys Matthew Rees (202), Ross Ford (206), Ian Keatley (212) a John Muldoon (254).
Byddai Turnbull wrth ei fodd yn dal lan gyda cyn-gapten Connacht, Muldoon, a mae’n benderfynol o geisio dringo y tabl yn y dyfodol.
“Fi’n cofio pan wnaeth e i gyd ddechrau gyda’r Scarlets yng Nghaeredin yn 2008, a gêm nes i ddim gorffen oherwydd ddes i bant cyn hanner amser,” meddai’r blaenwr rhyngwladol.
“Ond nawr fi’n bles iawn i gyrraedd 200 o gemau a gobeithio y bydd mwy o gemau i ddod. Fi eisiau cario ymlaen gyda beth fi wedi bod yn gwneud.
“Oedd John Muldoon yn chwaraewr da wnaeth ennill y gynghrair gyda Connacht ar ôl iddyn nhw gael tymor arbennig.
“I chwarae 250 o gemau dros ei glwb yn y gynghrair, mae’n dangos sut fath o chwaraewr oedd e.
“Roedd e’n gyson iawn yn beth oedd e’n gwneud ac yn mynd mas pob wythnos i roi ei gorff ar y llinell.
“Fi’n teimlo mai dyna fi’n gwneud pob wythnos gyda’r Gleision.
“Fi eisiau pigo nhw ffwrdd un wrth un nawr. Matthew Rees sydd nesaf, ond mae Ian Keatley dal yn chwarae nawr ac wedi symud i Glasgow.
“Mae dal cwpwl o flynyddoedd yn y coesau ‘ma a nawr fi eisiau cadw i fynd a dringo’r tabl un ar y tro.”
Bydd 114 o’r ymddangosiadau hynny wedi dod yn lliwiau Gleision Caerdydd, a’r gweddill dros ei ranbarth cartref a gwrthwynebwyr nos Wener, Scarlets.
Ond unwaith fydd y chwiban cyntaf yn canu, y perfformiad a’r canlyniad fydd ar flaen meddwl y gwr o Gastell Newydd Emlyn: “Y peth cyntaf ar fy meddwl i bydd mynd mas ‘na nos Wener i ennill y gêm. Dyna’r peth pwysig penwythnos yma, sef cael y fuddugoliaeth.
“Bydd chwarae’r 200fed gêm yn coroni popeth ar y penwythnos a nawr fi’n edrych ymlaen i fynd lawr yna, yn enwedig ar ôl curo nhw cwpwl o wythnosau yn ôl.
“Bydd hi’n dda i fynd yn ôl i lawr ‘na a dangos beth ni’n gallu gwneud eto.”