Mae carfan Gleision Caerdydd yn benderfynol o orffen y tymor ar nodyn uchel, yn ôl Josh Turnbull.
Bydd tîm John Mulvihill yn wynebu y Gweilch yng ngêm olaf y Guinness PRO14, gyda’r ddwy ranbarth yn brwydro am eu lle yng ngemau ail-gyfle Ewrop.
Er iddyn golli yn Galway dros y penwythnos, mae Turnbull yn mynnu bod rhaid i’w dîm gymryd ysbrydoliaeth o’u perfformiadau yn gynharach yn y tymor os am fod yn fuddugol ar Ddydd y Farn.
“Mae’n siomedig oherwydd ni wedi colli ein lle am y trydydd safle, a mae’n anodd gweld lle ni’n mynd o fan hyn,” meddai’r blaenwr rhyngwladol.
“Mae’n rhaid i ni fynd yn ôl i ymarfer wythnos yma a gweld beth sydd rhaid i ni wneud er mwyn cael cyfle olaf i fynd mewn i Gwpan y Pencampwyr yn erbyn y Gweilch ar Ddydd y Farn.
“Gobeithio gallwn ni wneud digon i ennill y gêm yna, a rhoi cyfle i ni fynd i’r gemau ail-gyfle yn erbyn y tîm yn y pedwerydd safle yn y grwp arall.
“Bydd rhaid i ni chwarae fel ni wedi mewn sawl gêm tymor yma, lle ni wedi troi lan fel tîm, fel y gemau yn erbyn y Scarlets a’r gêm gartref yn erbyn Munster.
“Os ni eisiau galw ein hunain y tîm gorau yng Nghymru, mae’n rhaid i ni guro y Gweilch.
“Hon fydd y gêm olaf, a’r tro olaf i rhai o’r chwaraewyr wisgo’r crys, a mae pawb eisiau gorffen y tymor gyda bang.
“Mae’n rhaid i ni edrych yn ôl ar y tri gêm cyntaf yn erbyn Leinster a timau o’r Eidal. Roedd heini yn anodd i’w cymryd oherwydd dim ond cwpwl o bwyntiau oedd ym mhob gêm.
“Mae Gleision Caerdydd eisiau chwarae ym mhrif gystadleuaeth Ewrop a mae’n rhaid i ni ennill wythnos nesaf er mwyn cadw ein gobeithion yn fyw.”