Mae Lloyd Williams yn mynnu fod rhaid i Gleision Caerdydd roi stamp eu hunain ar y gêm yn erbyn Benetton Rugby yn Stadio Monigo nos Sadwrn (C.G 7.35 y.h)
Mae tîm John Mulvihill yn teithio i’r Eidal yn chwilio am eu buddugoliaeth cyntaf o’r tymor, wedi iddynt golli yr ornest agoriadol yn erbyn Leinster wythnos diwethaf.
Fe wnaeth y tîm o Treviso drechu’r Dreigiau yn Rodney Parade wythnos diwethaf, gyda Alessandro Zanni, dwywaith, a Braam Steyn yn croesi’r llinell gais i’r ymwelwyr.
Bydd y Gleision yn aros yn yr Eidal, gan deithio i Parma ymhen wythnos i wynebu Zebre yn Stadio Sergio Lanfranchi.
Mae’r mewnwr yn credu gall ei dîm ddysgu o’u profiadau blaenorol o chwarae oddi-gartref yn yr Eidal, a mae’n disgwyl sialens gorfforol arall yn erbyn tîm Kieran Crowley.
“Mae Benetton wedi dangos yn barod pa mor gryf yw’r tîm. Does dim llawer o dimau yn mynd i Rodney Parade a dod mas gyda canlyniad fel ‘na,” meddai Williams.
“Mae’n bwysig ein bod ni ar top ein gêm ni ac ein bod ni’n chwarae fel ni eisiau.
“Y bwriad wythnos yma yw gweithio ar y pethau bach wnaeth adael ni lawr yn y gêm yn erbyn Leinster.
“Weithiau mae’n eithaf anodd pan chi wedi chwarae gêm oddi-cartref, a hedfan syth yn ôl. Mae’r wythnos ar ôl yn eithaf byr a mae’n anodd cael momentwm yn ôl. Mae’n neis i gallu cael gêm ac wedyn aros mas yna i baratoi ar gyfer y gêm nesaf.
“Y bwriad yw i gael y canlyniad yn y ddwy gêm, ond bydd hi’n amser anodd i ni ceisio gwneud hynny.
“Mae’n rhaid chwarae yn erbyn Treviso fel byddech chi mewn unrhyw gêm arall. Rhaid ceisio cadw’r bêl yn hanner nhw, ceisio gwthio nhw yn ôl ar y cae, yn lle chwarae o hanner eich hunain.
“Mae’n nhw’n dîm hynod gorfforol, ac os chi’n ceisio chwarae’r gêm yna yn erbyn nhw, mae nhw fel arfer yn ennill y math yna o gemau. Mae’n rhaid chwarae gêm eich hun.
Mae Williams, sydd wedi ennill 28 o gapiau dros Gymru, yn credu gall y garfan barhau i fod yn bositif yn dilyn y gêm yn erbyn Leinster, a bydd arweinwyr y tîm yn chwarae rhan bwysig wrth baratoi i herio Benetton.
Dywedodd Williams: “Roedd hi'n siom, a roedd hi ychydig bach yn anffodus bod ni wedi methu ennill y gêm yn erbyn Leinster.
“Yn bersonol, fi byth wedi curo nhw o’r blaen, felly oedd hi’n noson eithaf isel i fi a’r bechgyn eraill.
“O ni’n credu ein bod ni yn y safle i fynd ymlaen i ennill y gem, ond ar diwedd y dydd, dyna yw rygbi a dyna sut mae pethe’ yn troi mas.
“Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen nawr ac ar y cyfan roedd ein perfformiad ni yn hynod o dda.
“Mae’n rhaid cymryd yr agweddau positif o’r gêm a ni’n edrych ymlaen i fynd mas i’r Eidal.
“Mae lot o fechgyn profiadol yn y garfan nawr, sydd yn help mawr o ddydd i ddydd.
“Y peth da yw, os chi wedi cychwyn am y tro cyntaf wythnos diwethaf neu wedi bod yma am 10 mlynedd, mae gan pawb yr un cyfrifoldeb i siarad a chyfrannu cyn y gemau. Mae hynny’n hynod o bwysig ac yn helpu ni ar hyn o bryd.”