Blog Banner

Ratti yn un o dri enw newydd yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Cymraeg | 18th January 2022


Mae James Ratti wedi cael ei wobrwyo am ei berfformiadau yng nghrys Caerdydd, gyda ei alwad cyntaf i garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Wayne Pivac wedi cynnwys tri enw newydd yn y garfan, wrth i Gymru baratoi i amddiffyn eu coron fel pencampwyr, gyda Jac Morgan a Dewi Lake o'r Gweilch yn ymuno â Ratti ac yn gobeithio ennill eu capiau cyntaf dros eu gwlad.

Mae wyth chwaraewr arall o'r clwb wedi eu henwi yn y garfan, gyda Ellis Jenkins a Seb Davies yn ychwanegu at yr opsiynnau ymhlith pump ôl y blaenwyr. 

Yn y rheng flaen, mae Dillon Lewis a Rhys Carré wedi derbyn yr alwad tra fod Rhys Priestland yn cadw ei le, ar ôl dychwelyd i'r maes rhyngwladol dros yr hydref.

Bydd Uilisi Halaholo yn parhau i frwydro am ei le ymysg y canolwyr, gyda Tomos Williams a Josh Adams yn cwblhau'r gynrychiolaeth o'r Glas a'r Duon.

Mae'r cefnwr Liam Williams, fydd yn ymuno â chlwb y brifddinas dros yr haf, hefyd yn rhan o garfan Pivac, ond nid oedd Taulupe Faletau a Josh Navidi ar gael, o ganlyniad i anafiadau.

Mae cyfanswm o naw chwaraewr wedi eu datblygu trwy system ieuenctid y clwb a bydd yr ymgyrch yn cychwyn gyda taith i Ddulyn ar ddydd Sadwrn, Chwefror 5.

Blaenwyr: Rhys Carre, Wyn Jones, Gareth Thomas, Ryan Elias, Dewi Lake, Bradley Roberts, Leon Brown, Tomas Francis, Dillon Lewis, Adam Beard, Ben Carter, Seb Davies, Will Rowlands, Christ Tshiunza, Taine Basham, Ellis Jenkins, Jac Morgan, Ross Moriarty, James Ratti, Aaron Wainwright.

Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Dan Biggar (c), Rhys Priestland, Callum Sheedy, Jonathan Davies, Willis Halaholo, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Alex Cuthbert, Louis Rees-Zammit, Johnny McNicholl, Liam Williams.